Y Gwasanaeth Tân yn ymateb i dân yn Nolgellau
29/05/2024
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymateb i dân yn Nolgellau yn oriau man bore Mercher.
Fe gafodd y Gwasanaeth Tân eu galw am 01:34 fore Mercher i gyfeiriad Ffordd Pen y Cefn yn y dref, gyda thri pheiriant tân yn mynychu'r digwyddiad.
Defnyddiodd y criwiau "ddau jet rîl pibell, chwech offer anadlu, tri chamera delweddu thermol a phrif jet" yn ôl y Gwasanaeth Tân.
Ychwanegodd y Gwasanaeth yn byddant yn cynnal ymchwiliad i achos y diwyddiad yn y dref.
Nid oes adroddiadau bod unrhywun wedi eu hanafu.