Newyddion S4C

‘Ma bywyd ar stop’: Cynnydd yn nifer y menywod sy’n anafu ligament yn y pen-glin

Newyddion S4C 28/05/2024

‘Ma bywyd ar stop’: Cynnydd yn nifer y menywod sy’n anafu ligament yn y pen-glin

Yn ystod ei thrydedd gêm dros Glwb Pêl-droed Pen-y-bont, fe rwygodd Molly Cana o Abertawe, ligament yr ACL yn ei phen-glin.
 
Mae'n golygu na all gamu i’r cae am dros flwyddyn arall.
 
Mae anafiadau i’r Anterior Cruciate Ligament, neu ACL, yn dod yn fwyfwy cyffredin ymysg menywod sy’n chwarae pêl-droed, yn ôl arbenigwyr.
 
Dyma'r ligament sy’n sefydlogi’r esgyrn yng nghymal y penglin.
 
Yn ôl y Gymdeithas Brydeinig Orthopedig, mae menywod ddwy i chwe gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anaf i’w ACL o gymharu â dynion.
 
Bywyd ar stop
 
Cafodd Molly Cana ei hanafu wrth iddi anelu i gicio’r bel gyda’i throed dde. Tra’n camu ar ei throed chwith, rhwygodd yr ACL tu mewn i’w phen-glin.
 
"Odd fy mhen-glin jest 'di mynd ffordd anghywir," meddai wrth Raglen Newyddion S4C.
 
"Odd lot o sgrechian  - poen rhyfeddol byddai byth yn dymuno i unrhywun i gael."
 
Dyma’r eildro i Molly gael y math hwn o anaf. Y tro cyntaf, methodd â dychwelyd i'r cae am ddwy flynedd.
Image
Molly Cana
Nid yw peon yr anaf yn lleddfu i Molly Cana
 
A hithau wedi treulio tri mis yn ei chyfnod adfer, mae'n dweud nad yw'r boen yn lleddfu.
 
"Mae’n boenus trwy’r amser yn enwedig pryd i fi’n mynd i gwely. Ma fe ddim rili yn stopio. Ma bywyd ar stop ar hyn o bryd,"meddai.
 
Wrth i garfan menywod Cymru baratoi i wynebu Wcráin yng ngemau rhagbrofol Ewro 2025 yn Llanelli nos Wener, mae eu prif hyfforddwr yn cydnabod bod hon yn broblem ar lefel uchaf y gamp hefyd.
 
Dywedodd Rhian Wilkinson bod ‘ACLs yn gyffredin ar hyn o bryd’, yn enwedig yng ngêm y menywod.
 
Fe fydd Elise Hughes, aelod o’r garfan yn colli gweddill yr ymgyrch wedi iddi rwygo’i ACL yn chwarae dros Crystal Palace, ddiwedd mis Ebrill.
 
Er hyn, mae Wilkinson yn gweld y golled fel "cyfle" i chwaraewyr eraill ennill eu lle yn y tîm.
 
"Erchyll" 
 
Yn ôl Dyfri Owen, cyn-ffisiotherapydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru, mae yna sawl ffactor sy’n cyfrannu at risg yr anaf i fenywod : "Ma' nhw’n sôn am hormonau a rhywbeth o’r enw y Q angle.
 
"Oherwydd bod pelfis merched ychydig bach mwy llydan mae’n effeithio’r ongl ar y pen-glin 
 
"Ond y peth mwya pwysig yw cryfder y cyhyrau a’r gallu i reoli symudiadau yma sy’n digwydd mewn mabolgampau.
 
"Erbyn iddyn nhw gyrraedd eu harddegau, fel arfer ma bechgyn wedi chwarae miloedd ar filoedd o oriau o bêl-droed neu rygbi tra bo merched wedi 'neud cannoedd.
 
"Ma’ nhw’n meistroli’r symudiadau yma sy’n golygu bod nhw llawer llai tebygol o anafu’r ACl."
 
Er bod arbenigwyr yn ymwybodol o’r ffactorau, mae’r cynydd yn nifer yr achosion ymysg  menywod yn ‘erchyll’ meddai Dyfri Owen.
 
Effaith meddyliol
 
Ar draws y Deyrnas Unedig, pêl-droed sydd wedi arwain at 50% o lawdriniaethau i’r ACL.
 
Fe all gymryd hyd at flwyddyn i wella, gydag amseroedd aros am lawdriniaeth yn ddibynnol ar ddifrifoldeb yr anaf.
 
A hithau’n blismon o ddydd i ddydd, mae Molly Cana yn dweud ei bod hi’n ‘lwcus’ gan ei bod yn gobeithio cael llawdriniaeth o fewn y chwe mis nesaf.
 
Ond dywedodd mai’r her fwyaf yw’r effaith feddyliol.
 
"Yn amlwg yn ffisegol ma 'na effaith. Ma effaith ar bob elfen o fywyd i chwaraewyr. Mynd lan a lawr y star, newid dillad, mynd mewn a mas o’r cawod, gyrru.
 
"Ond yr effaith rili i fi yn bersonol oedd meddyliol.
 
"Ar y pryd o’n i’n teimlo’n rili isel, jyst yr ansicrwydd."
 
Er bod gêm y menywod yn datblygu yn y cyfeiriad cywir, mae "diffyg ymchwil a diffyg arian" yn y maes yn parhau,  yn ôl Molly Cana.
 
Dyfodol
 
A hithau'n athrawes addysg gorfforol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, mae'r sylwebydd pêl-droed Gwennan Harries, hefyd wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion: "Fi’n meddwl mae rhywbeth i neud gyda’r llwyth o ran faint ma chwaraewyr yn ymarfer yn fwy aml, yn fwy gyson sydd falle ddim yn cael y sylw neu’r gofal meddygol yna o fewn yr ymarferion neu tu allan i’r ymarferion.
 
"Ma hwnna’n gallu bod yn broses rili anodd i ddelio gyda pan ti’n aros i gal y triniaeth neu dod nôl.
 
"Ma hwnna’n rhywbeth sy’n pryderu fi o ran y dyfodol.
 
"Yn gyffredinol o fewn chwaraeon merched, pan ma’ ‘na fwy o anafiadau mae angen fwy o ymchwil a jest y parch yna at y gêm."
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.