Dyn ifanc wedi marw ger traeth poblogaidd yng Ngwynedd
Mae dyn 20 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ar draeth poblogaidd yng Ngwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Y Bermo am 17:50 nos Lun yn dilyn adroddiadau bod unigolyn angen cymorth.
Cafodd dyn ei ddarganfod toc cyn 20.00 a’i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle bu farw yn ddiweddarach, medd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mawrth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r dyn fu farw ac rydym yn parhau i'w cefnogi nhw.”
Dywedodd y llu bod y crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth hefyd.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau mewn datganiad nos Lun eu bod wedi cydlynu ymateb i adroddiad o bryder am berson yn y dŵr ar draeth y Bermo.
“Cafodd y larwm ei seinio tua 5.50pm ar 27 Mai.
"Anfonwyd dau hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau yn ogystal â Thimau Achub Gwylwyr y Glannau o Abermaw, Aberdyfi ac Aberystwyth.
"Anfonwyd badau achub yr RNLI o’r Bermo hefyd.
"Cafodd person ei ddarganfod yn y dŵr a'i hedfan i Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn bresennol."
Mae’r heddlu bellach yn apelio am lygad dystion neu unrhyw un sydd â delweddau fideo i gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000477242.
Llun: Gwynfor Owen