AS Gorllewin Caerdydd yn camu o'r neilltu ar ôl 23 mlynedd
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu ar ôl 23 mlynedd.
Kevin Brennan oedd olynydd Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru, yn y sedd pan gafodd ef o'r neilltu fel AS yn 2001.
“Rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad i gamu o’r neilltu fel AS Gorllewin Caerdydd ar ôl 23 mlynedd,” meddai Kevin Brennan mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Diolch i aelodau ac etholwyr Llafur lleol am eich cyfeillgarwch a’ch cefnogaeth.
“Mae wedi bod yn fraint fwyaf fy mywyd i gynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd fel ei AS Llafur am y 23 mlynedd diwethaf.
“Yn dilyn y cyhoeddiad sydyn ddydd Mercher diwethaf, fy mwriad o hyd oedd sefyll eto am seithfed tymor, ond ar ôl ei drafod gyda fy nheulu dros benwythnos gŵyl y banc rwyf wedi dod i’r casgliad mai dyma’r etholiad cywir i mi gamu i lawr.
“Mae swydd Aelod Seneddol yn rhoi llawer o foddhad ond mae'n un heriol i'r unigolyn a'i anwyliaid.
“Rwyf bob amser wedi mwynhau'r her, ond ar ôl llawdriniaeth ar gyfer canser y prostad heuwyd hedyn bach o amheuaeth ynghylch a ddylwn barhau mewn rôl oedd yn llenwi cymaint o fy amser.
“Byddai sefyll eto yn golygu ymrwymiad i gyflawni dyletswyddau heriol AS nes yn agos at fy mhen-blwydd yn 70 oed.
“Mae hyn wedi fy arwain i ddod i’r casgliad mai dyma’r adeg iawn i roi’r gorau iddi.”
Inline Tweet: https://twitter.com/KevinBrennanMP/status/1795151107292873112
Yng Nghymru, mae Wayne David (Llafur, Caerffili), David Jones (Ceidwadwyr, Gorllewin Clwyd), Christina Rees, (Llafur, Castell-nedd), Dr Jamie Wallis (Ceidwadwyr, Pen-y-bont), a Hywel Williams (Plaid Cymru, Arfon) hefyd wedi dweud eu bod yn camu o'r neilltu.
Bydd Beth Winter (Llafur, Cwm Cynon) hefyd yn gadael ar ôl peidio a chael ei dewis i sefyll.