Newyddion S4C

Cecru mewnol wrth i Rishi Sunak amddiffyn ei bolisi gwasanaeth cenedlaethol

27/05/2024

Cecru mewnol wrth i Rishi Sunak amddiffyn ei bolisi gwasanaeth cenedlaethol

Mae Rishi Sunak wedi amddiffyn ei gynllun i ail gyflwyno gwasanaeth cenedlaethol, wrth i rai o'i blaid ei hun fynegi anfodlonrwydd â'r sefyllfa.  

O dan y cynllun, byddai angen i bobl 18 oed naill ai ymuno â'r lluoedd arfog am flwyddyn neu gyflawni gwaith gwirfoddol yn eu cymuned. 

Yn ôl y Prif Weinidog, byddai hynny yn creu cymdeithas well ac yn cryfhau cyfundrefn amddiffyn y Deyrnas Unedig.  

Ond mae un o'i weinidogion yn anfodlon na fu unrhyw ymgynghori ag e, cyn cyflwyno'r polisi gwerth £2.5 billiwn.  

Mae'n aneglur hefyd a fyddai rhieni yn cael dirwy, pe bai eu plentyn sy'n oedolyn yn gwrthod ymuno â'r cynllun.

Byddai'r cynllun ar waith erbyn 2029-30 os y llwydda Mr Sunak i ennill yr etholiad.  

Byddai tua 30,000 o gyfleoedd milwrol llawn amser ar gael. A byddai rôl yn y gymuned yn opsiwn hefyd, gyda sefydliadau fel y gwasanaeth iechyd, yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn ogystal ag elusennau.   

Tra'n ymgyrchu yn Sir Buckingham, dywedodd Mr Sunak: “Mae'r dull modern hwn o wasanaeth cenedlaethol yn golygu y byddai bobl ifainc yn magu sgiliau a chyfleoedd sydd o fudd iddyn nhw."

'Dad's Army'

Ond mae'r gweinidog yng Ngogledd Iwerddon Steve Baker wedi beirniadu'r modd y cafodd y cynllun ei gyhoeddi, gan ddadlau nad oedd ymgeiswyr Ceidwadol yn ymwybodol ohono.  

Pe bai hwn yn bolisi'r llywodraeth yn hytrach na chynnig gan y Ceidwadwyr, awgrymodd y byddai wedi cael dweud ei ddweud ar faterion sensitif yn ymwneud â'r gwasanaeth milwrol yng Ngogledd Iwerddon.  

“Cafodd y cynnig hwn ei ddatblygu gan ymgynghorydd gwleidyddol, a doedd ymgeiswyr ddim yn ymwybodol ohono, gyda rhai ohonyn nhw yn weinidogion," meddai.     

Wrth i rai Ceidwadwyr blaenllaw gael eu cyfweld, daeth i'r amlwg nad yw rhannau allweddol o'r polisi wedi eu llunio eto.  

Mae'r Arglwydd Goldsmith ar ran y Ceidwadwyr hefyd wedi beirniadu Mr Sunak gan awgrymu fod y Torïaid yn wynebu canlyniad trychinebus yn yr Etholiad Cyffredinol. 

Dywedodd ei bod bron yn sicr y bydd Rishi Sunak yn colli mwyafrif ei aelodau seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, a'i fod yn achosi difrod mawr i'r Blaid Geidwadol.

Mae'r Blaid Lafur hefyd wedi beirniadu'r cynllun gwasanaeth cenedlaethol, gyda'r arweinydd  Syr Keir Starmer yn ei ddisgrifio fel "Dad's Army i'r arddegau." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.