Newyddion S4C

Llanusyllt ymhlith cannoedd o ardaloedd newydd i dderbyn band eang cyflym

28/05/2024
Llanusyllt

Mae Llanusyllt (Saundersfoot) yn Sir Benfro ymhlith nifer o ardaloedd a fydd yn cael band eang ffeibr llawn.  

Mae cwmni Openreach wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu'r band eang cyflym mewn dros 500 yn rhagor o leoliadau yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r ardaloedd hynny yn cynnwys 400,000 o dai neu fusnesau mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r gwaith yn rhan o brosiect Openreach sy'n werth £15 biliwn, er mwyn uwchraddio isadeiledd band eang y Deyrnas Unedig.  

Y nod yw sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gael ar gyfer 25 miliwn o gartrefi a busnesau erbyn diwedd 2026. Mae 6.2 miliwn o'r adeiladau hynny mewn ardaloedd gwledig. 

'Uwchraddio'

Dywedodd Clive Selley, prif weithredwr Openreach: “Ry'n ni ar amser ac oddi mewn i'n cyllideb er mwyn newid technoleg band eang mewn 20 miliwn o gartrefi a busnesau. 

“Ry'n ni heddiw yn cyhoeddi mwy o fanylion nag erioed o'r blaen am y mannau lle rydym yn adeiladu a'r cymunedau y byddwn yn eu huwchraddio nesaf." 

Awgrymodd arolwg rai blynyddoedd yn ôl fod mwy na hanner pobl sydd yn byw mewn ardal wledig yn teimlo nad oedd eu mynediad i’r rhyngrwyd yn gyflym nac yn ddibynadwy. 

Ac mae nifer fawr o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn dal i fod yn anfodlon â'u darpariaeth a chyflymder eu cyswllt ar gyfer y we.   

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.