Newyddion S4C

Carchar i ddyn wnaeth ddwyn parseli tra'n esgus bod yn ddosbarthwr bwyd

24/05/2024

Carchar i ddyn wnaeth ddwyn parseli tra'n esgus bod yn ddosbarthwr bwyd

Mae dyn a wnaeth ddwyn parseli o 79 o dai a fflatiau yng Nghaerdydd tra'n esgus bod yn ddosbarthwr bwyd wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar.

Roedd Phillip Thompson, 35 oed o Adamsdown yn esgus bod yn ddosbarthwr bwyd gan deithio gyda bag oren cwmni Just Eat.

Cafodd ei arestio ac fe gyfaddefodd i fyrgleriaeth mewn 79 eiddo yn y brifddinas.

Arestiwyd Thompson ym mis Tachwedd 2023 ar amheuaeth o 11 byrgleriaeth.

Tra'r oedd wedi ei gadw yn y ddalfa yn aros am achos llys, parhaodd ditectifs i ymchwilio i ddigwyddiadau tebyg eraill.

Cafodd Thompson ei gyfweld eto ac fe gyfaddefodd i 69 o fyrgleriaethau pellach yng Nghaerdydd a Phenarth rhwng Gorffennaf 2023 ac Ionawr 2024.

'Trin byrgleriaethau o ddifrif'

Dywedodd y Swyddog yn yr achos Ditectif Sarjant Andrew Coakley o Heddlu De Cymru bod Phillip Thompson wedi defnyddio nifer o ffyrdd gwahanol i gael mynediad i dai a fflatiau pobl.

“Yn ogystal â gorfodi mynediad weithiau a manteisio ar ddrws neu ffenestr agored, daeth hefyd i neuadd breswyl y myfyrwyr gyda phot paent yn honni ei fod yn addurnwr ac roedd ganddo fag Just Eat, yn esgus i fod yn ddosbarthwr bwyd," meddai.

“Yn anffodus iddo, cafodd ei ddal ar deledu cylch cyfyng ac o’r delweddau hynny fe wnaethon ni ei adnabod gan ddefnyddio technoleg adnabod gwynebau.

”Mae lluniau teledu cylch cyfyng ynghlwm yn ei ddangos yn dwyn parseli o ardal gymunedol Quayside yn Nhrebiwt."

Plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ac ar 9 Mai cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd a mis o garchar am ymosod, gorfodi a rheoli a 10 byrgleriaeth o adeiladau preswyl.

Cafodd y 69 o fyrgleriaethau preswyl pellach eu cymryd i ystyriaeth.

Dywedodd DS Coakley o Heddlu De Cymru: "Rydym yn trin byrgleriaethau o ddifrif a byddwn yn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael i sicrhau cyfiawnder.

“Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr ymchwiliad hwn yn dod â rhywfaint o gysur i’r dioddefwyr ac yn tawelu meddwl y gymuned ehangach o’n hymrwymiad i ymchwilio i fyrgleriaethau.”

Ychwanegodd y llu eu bod yn atgoffa trigolion sy'n byw mewn blociau o fflatiau i fod yn hynod ofalus wrth ganiatáu i ddieithriaid gael mynediad i'r adeilad.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.