Newyddion S4C

Luke Littler yn ennill Uwch Gynghrair y Dartiau

24/05/2024
Luke Littler

Yn ei ymddangosiad cyntaf erioed yn y gystadleuaeth, mae Luke Littler wedi ennill Uwch Gynghrair y Dartiau.

Enillodd yn erbyn pencampwr presennol y byd Luke Humphries yn y rownd derfynol nos Iau, gan fwrw '9 darter', sef y cymal perffaith.

Dyma'r tro cyntaf i'r llanc 17 oed chwarae yn y gystadleuaeth wedi iddo hawlio ei le yno yn dilyn ei rediad i rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ym mis Ionawr.

11-7 oedd y sgôr terfynol yn yr O2 Arena yn Llundain wedi i Littler drechu Michael Smith 10-5 yn y rownd flaenorol.

Fe wnaeth y Cymro Gerwyn Price orffen yn safle rhif saith yn y gynghrair. Cyrhaeddodd y rownd derfynol y llynedd.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth dywedodd Littler ei fod yn deimlad da i ennill o flaen ei deulu.

"Mae e mor dda i ennill o flaen fy nheulu, fy nghariad a fy rheolwr, dwi ddim yn gwybod beth i wneud nesaf.

"Dwi jyst yn mwynhau chwarae dartiau, roedd lot o waith caled wedi mynd mewn i ennill hwn a dwi methu aros am y cystadlaethau nesaf."

Bydd Littler, Price a chwaraewyr eraill yr Uwch Gynghrair yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Iseldiroedd ar y penwythnos.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.