Neil Foden: Dau o lywodraethwyr ysgol lle bu'n brifathro yn camu o'r neilltu
Mae cadeirydd a dirprwy gadeirydd llywodraethwyr ysgol ym Mangor lle'r oedd Neil Foden yn bennaeth wedi camu o’r neilltu.
Fe gafwyd Neil Foden, a oedd yn brifathro ar ddwy ysgol yng Ngwynedd, yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant yr wythnos diwethaf.
Mewn datganiad ddydd Iau cadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod cadeirydd a dirprwy gadeirydd un o’r ysgolion, Ysgol Friars ym Mangor, wedi camu o’r neilltu.
Does dim awgrym o gwbl fod cysylltiad rhwng y ddau a gweithredoedd Neil Foden.
Mewn datganiad, cadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod "Mr Essi Ahari, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Friars a Mr Keith Horton, Dirprwy Gadeirydd, wedi camu i lawr ar unwaith".
"Rydym wedi diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'r ysgol," meddai'r cyngor.
"Mae swyddogion adran addysg y cyngor yn parhau i gefnogi bwrdd y llywodraethwyr gyda'u gwaith, yn enwedig wrth iddyn nhw ddewis cadeirydd a dirprwy gadeirydd newydd."
Disgwyl dedfryd
Mae Neil Foden yn wynebu carchar ar ôl i Lys y Goron y Wyddgrug ei gael yn euog o gam-drin plant yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd Foden ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant yn dilyn achos a wnaeth bara am 17 o ddyddiau.
Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â phump o blant, oedd yn cael eu hadnabod yn y llys fel Plant A, B, C, D ag E.
Fe'i cafwyd yn euog i 19 cyhuddiad yn ei erbyn allan o gyfanswm o 20. Roedd rhain yn cynnwys 12 cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn - gyda dau o'r 12 yn cynnwys gan berson oedd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.
Rhybuddiodd y Barnwr Rhys Rowlands y byddai'n wynebu dedfryd sylweddol o garchar pan fydd yn cael ei garcharu ar 1 Gorffennaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug.