Newyddion S4C

Ymchwiliad Swyddfa'r Post: 'Dim cydymdeimlad' â dagrau Paula Vennells

22/05/2024

Ymchwiliad Swyddfa'r Post: 'Dim cydymdeimlad' â dagrau Paula Vennells

Mae'r ymgyrchydd a chyn is-bostfeistr Alan Bates yn dweud nad oes ganddo "unrhyw gydymdeimlad" a chyn-bennaeth Swyddfa’r Post Paula Vennells wedi iddi fod mewn dagrau ar adegau wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus ddydd Mercher.

Dywedodd Ms Vennells ei bod hi "wedi gwneud camgymeriadau"  ond fe wadodd bod cynllwyn i guddio'r sgandal, arweiniodd at erlyn bron i fil o is-bostfeistri diniwed.

Wedi diwrnod cyntaf ei thystiolaeth, dywedodd Mr Bates, cyn is-bostfeistr Craig y Don yn Llandudno, ei fod yn falch gweld Paula Vennells yn gorfod ateb cwestiynau o'r diwedd.

"Dwi ddim yn gwybod am yr ymddiheuriadau yma, jest geiriau ydyn nhw," meddai.

Dywedodd Mr Bates, arweiniodd ymgyrch yr is-bostfesitri am gyfiawnder, ei fod wedi cwrdd ag uwch-swyddogion o Heddlu'r Met ddydd Mercher i drafod y posibilrwydd y bydd pobl yn cael eu herlyn yn sgil y sgandal.

"Yn sicr, mae nhw'n mynd i ymchwilio," meddai. " Rydw i wedi cael y sicrwydd yna, a dwi'n meddwl fod yr is-bostfeistri angen y sicrwydd yna."

Yn ystod ei thystiolaeth, roedd  Ms Vennells yn agos i ddagrau wrth drafod achos Martin Griffiths, is-bostfeistr laddodd ei hun yn 2013.

Cyn dechrau rhoi tystiolaeth roedd  hi wedi ymddiheuro am bopeth mae'r "holl is-bostfeistri a'u teuluoedd wedi dioddef."

Wrth ymateb, dywedodd cyn is-bostfeistr o Abertawe bod yr ymddiheuriad wedi dod yn rhy hwyr.

Dywedodd Mark Kelly: “Roedd yr ymddiheuriad dwi’n meddwl wedi ei ymarfer yn dda iawn, a hefyd yr ymateb i’r cwestiynau.

“Y rheswm pam dwi’n meddwl bod yr ymddiheuriad yn debycach i ymddiheuriad PR oedd oherwydd yn yr holl flynyddoedd hyn fe allai hi fod wedi gwneud ymddiheuriad fel yna.

“Pam bu’n rhaid iddi aros tan heddiw i wneud hynny?”

'Blaenoriaeth oedd amddiffyn y busnes'

Cyn cael rhybudd cyfreithiol gan cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Wyn Williams, dywedodd Ms Vennells mai ei bwriad oedd "i ateb pob cwestiwn."

Ar ôl crybwyll nifer o achosion lle nad oedd Swyddfa’r Post wedi bod yn llwyddiannus ar ôl i is-bostfeistri feio Horizon, gofynnodd cwnsel yr ymchwiliad Jason Beer KC: “Pam oeddech chi’n dweud wrth Aelodau Seneddol fod pob erlyniad yn ymwneud â system Horizon wedi bod yn llwyddiannus o blaid Swyddfa'r Post?"

Ar ôl saib byr, dywedodd Ms Vennells: “Rwy’n derbyn yn llwyr nawr bod Swyddfa’r Post…”

Cymerodd saib arall cyn ateb i gydio mewn hances bapur a daliodd ei phen yn ei dwylo.

Dangoswyd e-bost iddi hefyd a anfonodd at gyn gwnsler cyffredinol ac ysgrifennydd Swyddfa'r Post, Jane MacLeod, y cyfarwyddwr cyfathrebu Mark Davies, ac Alisdair Cameron, prif swyddog ariannol presennol Swyddfa’r Post.

Darllenodd yr e-bost: “Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y busnes a’r miloedd a oedd yn gweithredu o dan yr un rheolau heb mynd i drafferthion.”

Ychwanegodd: “Mae’n ddrwg gen i yn gyntaf oherwydd mae hyn yn darllen yn wael heddiw. Nid dyna sut roeddwn i’n bwriadu iddo gael ei ddarllen.

“Roeddwn wedi cael gwybod, ac mae’r ymchwiliad wedi clywed pobl eraill yn dweud yr un peth, nad oedd dim wedi’i ganfod ac felly fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd oedd bod y ffordd yr oedd y busnes yn gweithredu yn dderbyniol, a’r hyn yr oeddwn yn ceisio’i ddweud yma yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod y busnes fel yr oedd yn gweithredu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.”

'Dim cynllwyn'

Gofynodd Mr Beer iddi os oedd hi'n credu bod “cynllwyn yn Swyddfa’r Post… i wrthod rhoi gwybodaeth i chi ac i wrthod dogfennau i chi ac i roi sicrwydd ffug i chi”.

Atebodd Ms Vennells: “Na, dydw i ddim yn credu mai dyna oedd yr achos.”

“Rwyf wedi cael fy siomi, yn enwedig yn fwy diweddar, wrth wrando ar dystiolaeth o’r ymchwiliad lle rwy’n meddwl fy mod yn cofio bod pobl yn gwybod mwy nag efallai eu bod yn cofio ar y pryd neu yr oeddwn yn gwybod amdano ar y pryd.

“Does gen i ddim feddwl bod yna unrhyw gynllwyn o gwbl. Fy nhristwch mawr yn hyn o beth yw fy mod yn meddwl bod unigolion, gan gynnwys fi fy hun, wedi gwneud camgymeriadau, heb weld pethau, heb glywed pethau.

“Efallai fy mod i’n anghywir ond nid dyna’r argraff ges i ar y pryd, mae gen i fwy o gwestiynau nawr ond mae cynllwyn yn teimlo’n rhy bell.”

Clywodd yr ymchwiliad fod Ms Vennells wedi paratoi datganiad tyst 775 tudalen, a gymerodd saith mis i'w ysgrifennu.

Iawndal

Cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn gan y busnes rhwng 1999 a 2015 ar ôl i Horizon, sy’n eiddo i’r cwmni o Japan, Fujitsu, wneud iddo ymddangos fel petai arian ar goll.

Mae Heddlu Llundain eisoes wedi dweud eu bod yn edrych ar “droseddau twyll posib” yn deillio o erlyn is-bostfeistri; er enghraifft, “arian a adenillwyd o ganlyniad i erlyniadau neu gamau sifil”.

Mae'n annhebygol y bydd unrhyw gyhuddiadau troseddol nes bod cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Wyn Williams, wedi cwblhau ei adroddiad terfynol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.

Mae cannoedd o is-bostfeistri yn dal i aros am iawndal er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod y rhai sydd wedi cael collfarnau wedi’u dileu yn gymwys i gael £600,000 o daliadau allan.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.