
Cymeradwyaeth i Aelod Seneddol wedi iddo golli ei ddwylo a'i draed ar ôl cael sepsis
Cymeradwyaeth i Aelod Seneddol wedi iddo golli ei ddwylo a'i draed ar ôl cael sepsis
Safodd holl aelodau'r Ty Cyffredin ar eu traed i gymeradwyo yr Aelod Seneddol Ceidwadol Craig Mackinlay wrth iddo ddychwelyd i'w waith wedi iddo golli ei ddwylo a'i draed oherwydd sepsis.
Dychwelodd AS de Thanet i San Steffan am y tro cyntaf ddydd Mercher ers iddo gael ei ruthro i’r ysbyty ar 28 Medi.
Dywedodd wrth y BBC iddo droi’n “las rhyfedd iawn” yn fuan ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl mynd i sioc septig.
Cafodd ei roi mewn coma am 16 diwrnod ac fe gafodd ei wraig wybod mai dim ond 5% o siawns oedd ganddo o oroesi.
Mae sepsis yn digwydd pan fydd y corff yn ymateb i haint trwy ymosod arno'i hun yn hytrach na brwydro'n erbyn yr haint.
Wrth ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher cafodd Mr Mackinlay gymeradwyaeth gan Aelodau Seneddol ar ddwy ochr y meinciau.
Fe aeth arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer tuag ato i ysgwydd ei law wedi i'r gymeradwyaeth ddod i ben.
'Lwcus'
Wrth ddeffro, gwelodd Mr Mackinlay fod ei freichiau a’i goesau “wedi troi’n ddu," "fel plastig” ac yn “edrych yn farw”.
Cafodd wybod y byddai’n cael llawdriniaeth i dorri ei ddwylo a'i draed ar 1 Rhagfyr.
“Fe lwyddon nhw i arbed uwchben y penelinoedd ac uwchben y pengliniau,” meddai wrth y BBC.
“Felly efallai y gallech chi ddweud fy mod i'n lwcus.”

Mae'r tad 57 oed yn dweud ei fod am gael ei adnabod fel yr “AS bionig” cyntaf ar ôl cael coesau a dwylo prosthetig newydd.
Fe fydd gwraig a merch Mr Mackinlay yn ei wylio'n dychwelyd i Gwestiynau'r Prif Weinidog o'r oriel gyhoeddus ddydd Mercher.
Mae’r AS yn benderfynol o frwydro i gadw ei sedd yn yr etholiad nesaf yn ei etholaeth yng Nghaint, sydd yn mynd i gael ei hailenwi’n de Thanet.
Dechreuodd Mr Mackinlay ei yrfa wleidyddol yn y 1990au cynnar, gan arwain plaid Ukip am gyfnod byr cyn ymuno â'r Blaid Geidwadol yn 2005.
Llun: BBC