Newyddion S4C

Rhybuddion oren a melyn am law ar draws Cymru

22/05/2024
rhybudd tywydd

Mae rhybuddion oren a melyn am law wedi eu cyhoeddi ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ddydd Mercher.

Mae'r rhybudd oren yn dod i rym am 12:00 ddydd Mercher ac yn dod i ben am 12:00 ddydd Iau i rai siroedd yn y gogledd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai glaw trwm amharu ar deithio, bod rhai ffyrdd dan ddŵr ac olygu y bydd rhai yn colli pŵer.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod "peryg i fywyd" o achos y gallai llif y dŵr fod yn ddwfn a chyflym.

Fe allai gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd gael eu heffeithio hefyd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn argymell pobl i beidio teithio tra bod y rhybudd mewn grym, ac os oes rhaid gwneud, i fod yn ofalus.

"Cadwch eich hun ac eraill yn ddiogel; byddwch yn barod i osgoi teithio ar y ffordd pan allai amodau'r ffyrdd fod yn beryglus. Os oes rhaid i chi deithio, gofalwch eich bod yn gwylio am beryglon posibl a gyrrwch yn ofalus.

"Nid yw'n ddiogel gyrru, cerdded na nofio trwy ddŵr llifogydd. Osgowch hynny lle bo modd ac os yw dŵr cyflym neu ddŵr dwfn yn effeithio arnoch chi, ffoniwch 999, ac arhoswch am gymorth."

Mae'n bosib bydd y siroedd isod yn cael eu heffeithio gan y rhybudd oren:

  • Conwy
  • Gwynedd
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

 

Mae rhybudd melyn mewn grym ar gyfer rhai siroedd yn y gogledd a'r canolbarth hefyd.

Fe allai hyd at 30-40mm o ddŵr ddisgyn ac mewn rhai mannau rhwng 60-80mm.

Gallai dŵr ar y ffordd olygu amodau teithio anodd. 

Dyma'r siroedd allai gael eu heffeithio gan y rhybudd melyn:

  • Ceredigion
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Powys
  • Sir Ddinbych
  • Sir Y Fflint
  • Wrecsam
  • Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.