Cynlluniau i ddatgelu camlesi cudd y brifddinas

Newyddion S4C 29/06/2021

Cynlluniau i ddatgelu camlesi cudd y brifddinas

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatgelu rhan bwysig o hanes y brifddinas sydd wedi ei guddio dan goncrit a tharmac.

Mae'r ffos dan Ffordd Churchil yng Nghaerdydd, sy'n dal i fwydo'r dociau, wedi bod ynghau ers y 1940au.

Ond mae bwriad nawr i godi’r concrit i greu ardal ddeniadol ar lan y dŵr ac adfywio'r ardal gyfagos.

Un sy'n cofio'r camlesi gwreiddiol yw Alwyn Evans.

Image
Newyddion S4C
Alwyn Evans, sydd yn cofio'r camlesi gwreiddiol yng Nghaerdydd. [Llun: Newyddion S4C]

"Ryw frith go plentyn sydd genna i o honnon nhw'n cau o yn y lle cyntaf," dywedodd. 

"Nid camlas oedd hon, i unig bwrpas hi oedd cario dwr i'r doc.

"Mae'r gamlas wedi hen fynd fan yma, does ddim gobaith i adfer nhw.

"Ond ma'r 'feeder' i hun yn rhedeg i fyny fan hyn.

"Fel y gwelwch chi mae hanner y siopau fan hyn wedi cau, wedyn mae angen rywbeth i adfywio'r ardal yma yn bendant."

‘Ardal fwy gwyrdd’

Yn ôl arweinydd y cyngor, Huw Thomas, mae 'na ddymuniad i wneud canol Caerdydd yn fwy gwyrdd.

"Rhan o hanes y ddinas sy' di cael i anwybyddu, a'i goncritio drosto yn y degawdau diwethaf ydy hanes y camlesi," meddai.

Image
Newyddion S4C
Arweinydd y cyngor, Huw Thomas, yn anelu i wneud canol y ddinas yn fwy gwyrdd. [Llun: Newyddion S4C]

"Dwi'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod 'na gefnogaeth i'r busnesau sydd wedi dioddef yng nghanol y ddinas, ond fel rhan o'r adfywiad hynny 'da ni'n benderfynol fel cyngor o greu ardal wyrdd fydd hefyd yn gartref i gerddoriaeth fyw yn yr haf, a'n bwriad ni ydy creu awyrgylch le fydd pobl yn hoffi treulio amser, ac mae'r gwyrddni rhan annatod o hynny."

Wedi degawdau tan goncrit fe allai'r gwaith ddechrau yn yr hydref.

Prif lun: Archifau Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.