Newyddion S4C

Dihangfa lwcus i gi ar ôl disgyn 250 troedfedd oddi ar greigiau

21/05/2024
Achub ci Rhossili

Mae ci a ddisgynnodd 250 troedfedd oddi ar greigiau wedi cael ei achub gan fad achub Dinbych y Pysgod o Sir Benfro.

Cafodd cwch yr Haydn Miller, oedd allan ar hyfforddiant, ei anfon i ardal Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn dilyn adroddiadau bod ci wedi disgyn oddi ar y clogwyni.

Cafodd badau achub eraill yn lleol eu galw i'r digwyddiad hefyd, a bu dyn arall yn cynorthwyo ger y clogwyni.

Daeth y criw o hyd i leoliad y ci ac roedd ei gyflwr yn iawn, meddai bad achub Dinbych y Pysgod.

Llun: Bad achub Dinbych y Pysgod

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.