Dyn yn pledio'n euog o geisio treisio dynes a merch yn Hwlffordd
Mae dyn wedi cyfaddef iddo geisio treisio dynes a’i merch ifanc ar lwybr beicio ger Hwlffordd.
Gwnaeth Anthony Williams, 42 oed o Hwlffordd ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo ddydd Llun.
Plediodd Williams yn euog i dri cyhuddiad yn ei erbyn, sef dau gyhuddiad o geisio treisio menyw 16 oed neu hŷn, ac un cyhuddiad o geisio treisio merch 13 oed neu iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ychydig cyn 16.50 brynhawn dydd Llun, 17 Mai ar ôl i ddyn arall weld dynes wedi ei haflonyddu ar y llwybr beicio rhwng Hwlffordd a Tiers Cross.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, adroddodd y ddynes bod dieithryn wedi ceisio ei threisio hi a’i merch.
Dywedodd ei fod wedi eu bygwth os na fyddent yn cydweithredu, cyn iddo adael yr ardal.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cameron Ritchie: "Gwnaeth tîm o dditectifs chwilio'r ardal ar unwaith i gasglu unrhyw dystiolaeth yn gysylltiedig â'r drosedd neu'r dyn o dan amheuaeth, cyn arestio dyn oedd yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd i swyddogion.
"Sefydlodd ein hymholiadau gysylltiadau DNA rhwng yr oedolyn a ddioddefodd a’r sawl oedd o dan amheuaeth, a roddodd dystiolaeth gref inni fod Williams yn gysylltiedig.
“Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni ddarganfod ei fod wedi gwneud datganiadau sylweddol i ffrindiau yn dilyn y digwyddiad - gan ddatgelu gwybodaeth a fyddai'r troseddwr a'r dioddefwyr ond yn ei wybod. Roedd hyn er gwaethaf iddo honni mewn cyfweliad bod ei gof yn ‘niwlog’ ar ôl yfed llawer iawn o alcohol.
“Yn seiliedig ar gryfder y dystiolaeth a gawsom, cafodd ei gyhuddo o dair trosedd, y mae bellach wedi cyfaddef iddynt o flaen llys."
Mae Williams wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar ddydd Llun, 2 Awst.