Newyddion S4C

Heddwas wedi ei gyhuddo o ymosod ar lanc ym Mangor yn y llys

20/05/2024
Cube Bangor

Mae heddwas o Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi ei gyhuddo o ymosod ar lanc 17 oed tu allan i glwb nos ym Mangor wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun. 

Ymddangosodd PC Ellis Thomas, 24, o flaen y llys wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i Harley Murphy ger clwb nos Cube ym Mangor ar 29 Ionawr y llynedd. 

Fe gafodd PC Thomas, o'r Gaerwen, Ynys Môn ei ryddhau ar fechnïaeth ac ni chafodd ple ei chyflwyno. 

Fe fydd yr achos yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr, ond fe fydd y gwrandawiad nesaf ym mis Gorffennaf. 

Dechreuodd ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i'r digwyddiad ym mis Chwefror 2023, ar ôl i'r mater gael ei gyfeirio atynt gan Heddlu Gogledd Cymru. 

Ar ddiwedd yr ymchwiliad. a barodd bum mis, anfonwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.