Newyddion S4C

'Gweithred yw Gobaith': Cyhoeddi ffilm Neges Heddwch yr Urdd

20/05/2024

'Gweithred yw Gobaith': Cyhoeddi ffilm Neges Heddwch yr Urdd

Ganrif yn ôl fe groesodd y gwragedd yma'r môr yn cario gobeithion menywod Cymru am heddwch mewn cist dderw.

Roedd cysgod y Rhyfel Mawr yn drwm ar y rhai oedd yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno a Chynghrair y Cenhedloedd.

Ganrif yn ddiweddarach mae merched yn ganolog i Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni.

"Er mor brilliant ydy o bod dros draean o ferched Cymru... "..ganrif yn ôl wedi dod at ei gilydd i ofyn am heddwch... "..mae 'na rywbeth trist bod ni heddiw yn gwneud yr un peth."

"Mae'r egni benywaidd yn egni sy'n gallu bod yn ysbrydoledig... "..ac yn ein huno ni mewn ffordd sy'n feddalach.

"Mae galluogi merched i arwain yn teimlo'n werthfawr iawn... "..yn y byd sydd ohoni."

Mae rhai sydd ond wedi ymgartrefu yma yn ddiweddar wedi cyfrannu at y neges rhai ohonyn nhw â phrofiad teuluol o ryfel neu orthrwm.

"It's important to send that message out there... "..and tell those young people that we are here and calling for peace.

"You're not alone and it may be hard but you still need to have hope."

"Mae'r gweithdai ni 'di cynnal efo myfyrwyr Caerdydd a'r Fro... "..yn cynnwys nifer ar gyrsiau ESOL sydd wedi ffoi o ryfela.

"Mae 'di rhoi cyfle i ferched ifanc yr Urdd wrando ar y stori.

"Mae'r merched ifanc yn gweld hwn fel trobwynt yn eu bywydau... "..clywed stori o ferched ifanc yn ffoi... "..ond nawr yng Nghymru lle mae cefnogaeth a heddwch."

Gweithred yw gobaith yw'r neges sydd erbyn hyn yn teithio'r byd mewn dros 60 o ieithoedd. Mae'n rhaid gweithio dros heddwch bob dydd.

Neges sy'n cario uchelgais menywod Cymru ganrif yn ôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.