‘Anghredadwy’: Dwyn llo deuddydd oed o ardal Llangollen
19/05/2024
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i lo deuddydd oed gael ei ddwyn o ardal Llangollen.
Dywedodd tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru bod y drosedd honedig yn “anghredadwy”.
Cafodd y llo o frid Gwartheg Ucheldir Sgotaidd ei ddwyn o ardal Eglwyseg Llangollen, dros nos ar ddydd Mawrth, 14 Mai, medden nhw.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai helpu, cysylltwch â ni gyda’r cyfeirnod 24000448363,” meddai llefarydd.