'Daliwch fi os allwch chi': Arestio dyn yn Wrecsam oedd wedi gwawdio'r heddlu ar-lein
19/05/2024
Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi arestio dyn yn Wrecsam a wnaeth eu gwawdio gyda sylw "sarcastig" arlein.
Roedd James Jones, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Jay, wedi gadael neges ar gyfryngau cymdeithasol yr heddlu wrth iddyn nhw chwilio amdano yr wythnos diwethaf.
Yn ei neges, dywedodd Mr Jones: “Daliwch fi os allwch chi".
Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi arestio’r dyn wedi iddo gael ei ganfod y tu fewn i "westy budget" yn ardal Wrecsam, medden nhw.
Dywedodd y llu eu bod yn ddiolchgar i’r rheiny a wnaeth rhoi cymorth iddyn nhw wrth ddod o hyd i'r dyn.