![Pont Felin Cwrrws](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-05/Screenshot%202024-05-18%20at%2016.14.17.png?itok=tBMJFys6)
Heddlu'n ymchwilio ar ôl i gerrig gael eu dwyn o bont hanesyddol yng Ngheredigion
Mae tîm arbenigol Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad wedi i gerrig gael eu dwyn o bont hanesyddol yng Ngheredigion.
Fe gafodd 15 o gerrig eu cymryd oddi ar Bont Felin Cwrrws ger Henllan yn gynharach yn y mis.
Y cred yw bod y cerrig wedi’u dwyn rhyw bryd ar 10 Mai.
Mae’r bont wedi’i chofrestru fel strwythur Gradd II gan olygu na ddylai lawer o newidiadau gael ei gwneud iddi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn galw ar unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu â’r Tîm Troseddau Gwledig gan ddyfynnu’r cyfeirnod ‘Digwyddiad 395 o 14/05’.
![Pont Felin Cwrrws](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-05/Screenshot%202024-05-18%20at%2016.14.17.png?itok=tBMJFys6)
Mae Pont Felin Cwrrws dros Afon Cynllo rhwng Castell Newydd Emlyn a Llandysul yn dyddio o 1840. Roedd un o fwau y bont yn wreiddiol yn ffrwd ar gyfer melin.
Mae ysgrifen arni sy'n dweud: "Codwyd y bont hon yn y flwyddyn 1840 yn rhannol drwy arian a godwyd o Sir Geredigion a thrwy danysgrifiadau gan unigolion yn y sir hon a siroedd cyfagos Caerfyrddin a Phenfro."