Newyddion S4C

Beth yw'r enwau babanod mwyaf poblogaidd yng Nghymru?

18/05/2024
Babi uned mam a'i babi

Mae’r rhestr diweddaraf o'r enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer babanod yng Nghymru wedi’i gyhoeddi. 

Noah oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar gyfer bechgyn yn ôl ystadegau'r ONS o 2022, ac Olivia oedd yr enw mwyaf poblogaidd i ferched. 

Ar restr enwau’r merched, yr enw Isla ddaeth yn ail gydag Amelia yn drydedd. Cafodd 145 o fabanod eu henwi’n Olivia, 137 wedi’u henwi’n Isla a 129 wedi’u henwi’n Amelia, yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol. 

Yr enw Theo ddaeth yn ail ar restr y bechgyn gyda 196 o fabanod wedi’u henwi gyda’r enw, ac Oliver ddaeth yn drydedd gyda 188 o fabanod wedi’u henwi. Cafodd 264 o fabanod eu henwi’n Noah. 

Osian oedd yr enw Cymraeg uchaf ar restr enwau’r bechgyn, yn y 11fed safle, gan fethu â chyrraedd y 10 enw mwyaf poblogaidd.

Image
Enwau bechgyn
Rhestr o enwau fwyaf poblogaidd i fechgyn

Roedd sawl enw Cymraeg ar y ddwy restr gan gynnwys Elis yn safle 21 ar restr y bechgyn, Harri yn safle 23, Jac yn safle 29, Dylan yn safle 35, Macsen yn safle 36, a Tomos yn safle 48.

Roedd yr enwau Cai, Idris a Rhys hefyd ymhlith rhai'r o'r enwau Gymraeg ar y rhestr enwau, gan ymddangos yn safle 85 ar y cyd ar restr y bechgyn gyda 37 o fabanod gyda’r enwau hynny. 

Ar restr enwau’r merched, Mali oedd y fwyaf poblogaidd o’r enwau Gymraeg gan ymddangos yn y 15fed safle. Roedd Seren yn safle 37, Eira yn safle 47, Mabli yn safle 54, Alys a Ffion yn safle 57 ar y cyd, Cadi yn safle 62 a Nansi yn safle 68. 

Image
Enwau
Rhestr o enwau fwyaf poblogaidd i ferched

Roedd Megan, Eleri ac Elin hefyd yn ymddangos ar y rhestr yn safle 81 ar y cyd gyda 29 o fabanod yn dwyn yr enwau rheini.

Roedd Lily, Elsie, Ava, Ivy, Millie, Freya ac Ella hefyd ymysg y 10 enw mwyaf poblogaidd i ferched, tra oedd Arthur, Luca, Oscar, George, Archie, Freddie a Leo ymysg y 10 enw mwyaf poblogaidd i fechgyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.