Penaethiaid ysgolion wedi’u ‘drysu’ gan newidiadau i fesurau Covid-19 ysgolion

29/06/2021
Dosbarth ysgol

Mae undeb penaethiaid addysg yn dweud bod eu haelodau wedi’u “drysu’n lân” gan newidiadau i fesurau Covid-19 yng Nghymru.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd ysgolion yn gallu cyflwyno mesurau diogelwch eu hunain yn seiliedig ar risg Covid-19 eu hardaloedd lleol. 

Yn ôl undeb NAHT Cymru mae gan y newidiadau y potensial i fod yn "hynod drafferthus". 

Yng nghynhadledd y llywodraeth i’r wasg ddydd Llun, cyhoeddwyd y bydd swigod mewn ysgolion yn dod i ben, gyda'r gobaith y gallai atal nifer “anghyfartal” o ddisgyblion rhag hunan-ynysu.

Mae’r llywodraeth felly yn gobeithio gallu gwahaniaethu rhwng cysylltiadau unigol a ‘swigod’.

Yn ôl Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, mae’r gofyniad yma yn “anymarferol”.

“At ddibenion hunan-ynysu, byddai disgwyl i ysgolion ddarparu gwybodaeth i'r timoedd olrhain a chyswllt Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Byddai hyn yn cynnwys gwybod pwy oeddent yn agos atyn nhw yn yr ysgol, yn ogystal ac wrth gael eu gollwng a’u codi o’r ysgol.”

‘Angen bod yn realistig’

Ychwanegodd yr undeb bod eu haelodau wedi eu “drysu’n lân” gan y cyhoeddiad, yn sgil pryderon y gall y fframwaith “gynyddu’r cysylltiadau agos, yn hytrach na’u lleihau".

Maen nhw’n galw ar y llywodraeth i fod yn “realistig” gyda’r hyn sy’n bosib i ysgolion o ganlyniad.

Daeth cyhoeddiad y llywodraeth ddydd Llun am y newidiadau wrth i ysgolion ledled y wlad wynebu blynyddoedd cyfan yn hunan-ynysu oherwydd cynnyd mewn achosion dros y mis diwethaf. 

Yn ôl adroddiadau, mae dros 3,000 o ddisgyblion hunan-ynysu yn y gogledd ddwyrain - yn cynnwys 1,1,900 yn Wrecsam, 1,000 yn Sir y Fflint, a 1,000 yn Sir Ddinbych.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.