Newyddion S4C

Betsi Cadwaladr: Ysgrifennydd Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau

ITV Cymru 18/05/2024
David TC Davies ac arwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau yr oedd modd cael eu hatal yng ngogledd Cymru.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Eluned Morgan, sydd wedi'i weld gan ITV Cymru, dywedodd David TC Davies AS: "Mae gormod o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn dioddef profedigaethau diangen."

Daw ar ôl i ymchwiliad gan ITV Cymru Wales ganfod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn 28 o adroddiadau 'atal marwolaethau yn y dyfodol' (PFD) dros gyfnod o 16 mis, mwy na'r cyfanswm ar draws y chwe bwrdd iechyd arall yng Nghymru.

Gall crwner gyhoeddi PFD pan mae ganddo bryderon am amgylchiadau marwolaeth unigolyn, neu os yw’n ymddangos bod risg y bydd marwolaethau eraill yn digwydd.

Mae'r prif weithredwr Carol Shillabeer wedi ymddiheuro i'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio ac yn cyfaddef eu bod wedi cael eu "gadael i lawr", tra bod Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod y nifer uchel yn "bryder sylweddol".

'Heb gyrraedd y trothwy'

Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Eluned Morgan wrth ITV Cymru Wales: "Pe bai rheswm da dros [gynnal ymchwiliad cyhoeddus], wrth gwrs byddwn yn ystyried hynny ond ar hyn o bryd nid wyf yn meddwl ei fod wedi cyrraedd y trothwy hwnnw."

Mae rhan o lythyr David TC Davies yn dweud ei fod yn "anghytuno" a bod "gormod o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn dioddef profedigaeth ddiangen; byddai eu hanwyliaid dal yn fyw oni bai am fethiannau’r bwrdd".

"Nid wyf yn gwybod pa drothwy sydd gennych mewn golwg ar gyfer galw ymchwiliad cyhoeddus," meddai. "Ond credaf bod yr achos dros ymchwiliad cyhoeddus wedi'i fodloni ers tro.

"Rwy'n eich annog i gymryd camau pendant a chyhoeddi ar unwaith ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau y gellir eu hatal yng Ngogledd Cymru. Rwy'n barod i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi ymchwiliad o'r fath."

Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru gadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr ac y byddan nhw'n ymateb yn fuan. 

'Gwaith ar y gweill'

Ers yr adroddiad cychwynnol, mae teuluoedd lle bu marwolaethau eu hanwyliaid yn destun hysbysiadau atal marwolaeth yn y dyfodol wedi cysylltu ag ITV Cymru Wales.

Dywedon nhw eu bod wedi derbyn llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaldr yn ymddiheuro am eu profiad ac yn cynnig cyfarfod â nhw.

Mewn datganiad, dywedodd Carol Shillabeer: “Rydym wedi cysylltu â teuluoedd anwyliaid sydd wedi derbyn hysbysiad atal marwolaeth yn dilyn y cwêst i’w marwolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydym am ymddiheuro a chynnig y cyfle iddyn nhw gwrdd â ni i drafod eu profiad. Bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ni rannu gyda nhw’r gwaith sydd ar y gweill i wella’r gwasanaethau a’r gofal ry’n ni’n ei ddarparu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae nifer yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’u derbyn yn peri pryder sylweddol. Mae hwn yn faes sy’n peri pryder gwirioneddol y mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael ag ef yn gyflym.

“Mae wedi’i wneud yn glir i’r bwrdd iechyd fod angen rjoi systemau a phrosesau ar waith sy’n sicrhau beth sydd y tu cefn i'r pyderon sydd wedi’u codi gan y crwneriaid a’i fod yn gallu mynd i’r afael â’r problemau systemig sy’n amlwg yn y adroddiadau.

“Rydym wedi cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd y mater hwn o ddifrif a bod gwaith yn mynd rhagddo i nodi ac ymateb i’r themâu allweddol a’r pwyntiau dysgu sydd yn yr adroddiadau. Mae gwaith hefyd ar y gweill i wneud gwelliannau i wasanaethau er mwyn atal y materion hyn rhag codi yn y dyfodol.

“Mae gan y bwrdd iechyd lawer i’w wneud i wella ac mae’n hanfodol ei fod yn darparu gwasanaethau sydd ag ansawdd a diogelwch cleifion yn ganolog i bopeth y mae’n ei wneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.