
Bachgen wedi marw ar ôl syrthio o floc o fflatiau
Mae bachgen pump oed wedi marw ar ôl disgyn o lawr uchaf bloc o fflatiau yn nwyrain Llundain.
Yn ôl yr heddlu fe syrthiodd y plentyn o 15fed llawr Jacob’s House ar New City Road, Plaistow, cyn 06.00 ddydd Iau.
Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon ambiwlans awyr, yr heddlu, a’r frigâd dân, bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr heddlu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un “annisgwyl” ond does neb wedi eu harestio ac mae ymholiadau yn parhau.
Dywedodd un o drigolion Jacob’s House, a roddodd ei enw fel JJ yn unig, fod y bachgen yn byw ar y 15fed llawr.
Dywedodd ei fod wedi gweld dyn yn gweiddi “fy mab!” wedi iddo syrthio.
Ychwanegodd y preswylydd: “Roedd y parafeddyg yn edrych wedi ei ysgwyd.
“Roedd y parafeddygon yma tua 06.00, 06.10 efallai. Roedden nhw yma yn gyflym.”

Mae blodau wedi cael eu gadael wrth leoliad y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Cafodd yr heddlu eu galw am 05.58 o’r gloch ddydd Iau i adroddiadau bod plentyn wedi disgyn o uchder yn New City Road, E13.
“Roedd swyddogion, Brigâd Dân Llundain, Gwasanaeth Ambiwlans Llundain ac Ambiwlans Awyr Llundain yn bresennol.
“Roedd bachgen pump oed wedi cwympo o lawr uchaf bloc o fflatiau.
“Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, yn anffodus iawn bu'r bachgen farw yn y fan a’r lle. Mae ei deulu yn ymwybodol ac yn cael cefnogaeth.
“Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un annisgwyl ac mae ymholiadau yn mynd rhagddynt i sefydlu’r amgylchiadau llawn.
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r plentyn ar hyn o bryd. Nid oedd unrhyw arestiadau wedei’u gwneud.”