Newyddion S4C

Bachgen o Wynedd i ddringo tri chopa er mwyn cefnogi ei deulu yn Gaza

16/05/2024
Gabriel Fares

Mae bachgen chwech oed o ogledd Cymru yn paratoi i fynd i’r afael â Her Tri Chopa Cymru i gefnogi ei deulu yn Gaza.

Mae Gabriel Fares, sy'n byw yn Llwyngwril, Sir Feirionydd yn gobeithio cyrraedd copa Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan o fewn cyfnod o 24 awr er mwyn codi arian i helpu criw o bron i 50 o berthnasau.

Nid yw dyddiad i gwblhau'r her wedi’ benderfynu eto, ond dywedodd mam Gabriel, Emily Fares, ei bod yn edrych yn debygol o fod ym mis Mehefin.

Dywedodd Mrs Fares, 35, sy’n fydwraig gofrestredig, wrth asiantaeth newyddion PA: “Nid yw’n stopio holi am ei deulu yn Gaza ac mae bob amser yn siarad â’i dad-cu ac roeddem wedi sôn am yr her iddo ac fe neidiodd ar y cyfle i'w wneud.”

'Gweddïo dros ei deulu'

Mae Gabriel wedi bod yn ymarfer ar gyfer ei her fynydda trwy ddringo'r union fynyddoedd y bydd yn dringo ar yr her, yn ogystal ag eraill yn y wlad.

“Fe wnaethon ni edrych ar-lein a gweld bod 180 o fynyddoedd yng Nghymru, felly dydyn ni ddim yn brin o rai i ddewis ohonynt,” meddai Mrs Fares.

“Rydyn ni eisoes wedi gwneud y rhai fydd ar yr her, dim ond i weld sut le ydyn nhw.

“Mae o wedi bod yn mwynhau’r dringo’n fawr a jest yn siarad am y teulu ar hyd y ffordd ac mae e ond yn chwech, felly mae'n cyrraedd amser pan mae’n cael llond bol ac yn flinedig. 

"Ond fe fyddwn ni’n siarad am y teulu ac mae'n dechrau rhedeg i'r brig eto.”

Image
Gabriel Fares
Hoff le Gabriel i gerdded yw'r Wyddfa. Llun: PA

Ychwanegodd fod Gabriel wedi bod yn gweddïo dros ei deulu bob nos ac yn siarad yn rheolaidd â’i daid - tad ei dad, sydd wedi teithio i’r Aifft o’r DU i geisio bod yn agosach at ei deulu.

Ar daith gerdded ddiweddar i fyny’r Wyddfa, ar 27 Ebrill, dywedodd Gabriel mai dyna oedd ei “hoff le i gerdded”, fe wnaeth ef gyfarfod ag eraill a roddodd eu cefnogaeth i’r rhai yn Gaza.

“Roedd yna griw mawr o gerddwyr o Action Aid i fyny yna hefyd ac roedden ni’n siarad â nhw am Gaza.

"Rydych chi’n cael eich denu ato oherwydd mae’n gallu teimlo’n eithaf unig pan fyddwch chi’n poeni’n gyson am eich teulu ac roedd wir yn hyfryd y diwrnod hwnnw i fod yn siarad â phobl a gweld beth roedden nhw'n ei wneud hefyd,” dywedodd Mrs Fares.

Yn ymuno â Gabriel ar ei daith bydd ei daid, Rob, sef tad Mrs Fares.

“Nid yw’n bell o fod yn 70 oed ac rwy’n poeni mwy amdano gan y bydd yn rhaid i ni gadw i fyny â Gabriel ac felly mae’n debyg y bydd yn gwenu ac yn flinedig,” ychwanegodd.

'Amodau enbyd'

Cafodd tad Gabriel, na ellir ei enwi am resymau diogelwch, ei eni yn y DU i dad Palestina a mam o Brydain, ond mae ganddo 48 aelod o'r teulu sy'n byw yn Gaza.

Roedd llawer yn byw yn Khan Yunis cyn 7 Hydref, ond symudodd i Rafah cyn ffoi i Al-Mawasi ar arfordir deheuol Gaza wrth i amodau fynd yn fwy “enbyd”.

“Nawr, yn Al-Mawasi, maen nhw mewn pebyll ac nid oes ganddyn nhw unrhyw fwyd, dim dŵr a dim trydan,” meddai Mrs Fares.

“Yn Rafah, roedd eu sefyllfa ychydig yn well - maen nhw bellach yn gwbl amddifad yn Al-Mawasi.

“Ar hyn o bryd, mae’n anodd cysylltu â nhw – mae’n rhaid iddyn nhw gerdded i gael ychydig o signal, sydd ynddo’i hun yn beryglus.”

Anfonodd un aelod o’r teulu neges at Mrs Fares a oedd yn dweud: “Rydym am i’r rhyfel ddod i ben oherwydd ni allwn ei oddef mwyach.

“Mae’r sefyllfa’n frawychus ac yn anodd. Ni allaf amddiffyn fy mhlant.”

Dywedodd Mrs Fares ei bod hi a’i gŵr yn ceisio cael holl aelodau’r teulu i’r DU trwy gais ailuno teulu sydd y tu allan i'r rheolau, y gellir ei ganiatáu mewn achosion eithriadol, ond mae ymateb y Swyddfa Dramor wedi bod yn “warthus”.

“Cawsom un ymateb yn ôl, a oedd yn ymateb a gynhyrchwyd ymlaen llaw yn unig,” meddai.

“Roedden ni wedi ein siomi.

“Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni’n cael ein clywed ac mae’n ymddangos nad oes llawer o ddiddordeb yn y ffordd mae pobl yn cael eu heffeithio.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) nad yw’r FCDO yn gwneud sylw ar achosion unigol, gan ychwanegu: “Rydym wedi helpu dros 300 o ddinasyddion Prydeinig, staff HMG yn y wlad a’u dibynyddion i adael Gaza.

“Mae nifer fach o bobl gymwys ar ôl ac rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau Israel a’r Aifft i gefnogi gweddill y rhai sydd eisiau gadael.”

Canmolodd Mrs Fares ei Aelod Seneddol lleol, Liz Saville-Roberts, am fod yn “wirioneddol gefnogol”, gan gyfarfod â hi’n rheolaidd a cheisio siarad am deulu Mr Fares yn y Senedd.

Mae Gabriel yn aml yn bresennol yn y cyfarfodydd ac mae hefyd wedi bod ar nifer o orymdeithiau i gefnogi Palestina gyda'i rieni ym Manceinion.

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.