
Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cofnodi wythnos gyfan heb farwolaethau Covid-19
Nid yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 dros gyfnod o wythnos am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Ni chafodd yr un farwolaeth Covid-19 ei chofnodi yn yr wythnos hyd at 18 Mehefin yng Nghymru - ffigwr sydd heb ei weld ers mis Mawrth 2020.
Mae'r ffigyrau wythnosol o farwolaethau yn sgil Covid-19 wedi bod o dan 10 yng Nghymru ers wyth wythnos, gyda'r ffigwr diweddaraf yn sero.
Cyn hyn, un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 oedd y ffigwr isaf i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ei gofnodi dros gyfnod o wythnos ers dechrau'r pandemig.

Er hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 3 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ers 18 Mehefin.
Bydd ffigyrau am y cyfnod rhwng 19-25 Mehefin yn cael ei gyhoeddi dydd Mawrth nesaf.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r gyfradd o'r haint ledled Cymru bellach yn 53.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Yn siroedd y gogledd mae'r gyfradd ar ei huchaf, gydag 142.9 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth yn Sir y Fflint, a 104.5 yn Sir Ddinbych.
'Newyddion gwych'
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd gweinidog cysgodol yr wrthblaid ar iechyd yn y Senedd, Russell George AS o'r Ceidwadwyr Cymreig:
"Yn dilyn trychineb ac anawsterau'r flwyddyn ddiwethaf, mae hyn yn newyddion gwych.
"Er bodolaeth amrywiolyn Delta yng Nghymru, mae'r ffigyrau'n dangos llwyddiant ysgubol y cynllun brechu wrth amddiffyn ein pobl rhag afiechydon difrifol. Mae'r diwedd ar y gorwel ond mae'n amlwg y bydd angen i ni ddysgu i fyw gyda'r feirws wrth symud ymlaen.
"Mae'n bwysig nawr fod gweinidogion Llafur yn darparu cynllun allan o'r cyfyngiadau i deuluoedd, gweithwyr a busnesau fel yr ydym wedi ei weld yn Lloegr a'r Alban."