Newyddion S4C

Tad wnaeth geisio gymryd bywyd ei hun yn lansio menter i helpu tadau eraill

15/05/2024

Tad wnaeth geisio gymryd bywyd ei hun yn lansio menter i helpu tadau eraill

Tu ôl i ddrysau caeedig roedd y boen a'r loes yn cuddio gan Aled Edwards.

Pan oeddech chdi ar dy isaf, pa mor anodd oedd gadael y tŷ?

"Ofnadwy o anodd i ddeud y gwir. Reit yn cychwyn, o'n i efo gymaint o siom o ran be o'n i 'di wneud."

Ei blant, Sully a Bea yw popeth iddo ac mae'n dad balch ond yn 2021, ar ôl i Beautrice gael ei geni dechreuodd boeni a dioddef yn dawel.

"Chwech wythnos ar ôl iddi gael ei geni wnes i drio cymryd fy mywyd i. O'n i at y pwynt lle oedd pob dim yn ddim yn ddigon i'r plant yn ddim yn ddigon i'r wraig. 'Sdim ots be o'n i'n wneud, o'n i'n flin efo fy hun.

"O'n i'n flin bod popeth o'n i'n wneud ddim yn ddigon. Hyd yn oed bod fi'n codi canol nos a newid nappies a bod fi'n helpu. O'dd fy ngwraig ddim yn gorfod codi bawd. O'n i yna i wneud bob dim ond doedd o dal ddim yn ddigon i fi.

"O'n i'n meddwl 'sa pawb well off hebddo fi so es i off. Ie, 22nd October 2021, wnes i drio cymryd bywyd fy hun."

Roedd Aled ar ei bwynt isaf ond ei deulu a'i blant oedd yr achubiaeth.

"Digwydd bod, y bore yna, daeth y dyn bach ataf fi a rhoi ei fraich rownd fi a rhoi hug fawr i fi. A hwnna wnaeth stopio fi. Dim meddwl, wneith o dyfu i fyny heb dad. Gwybod y byswn i byth yn teimlo'r cariad yna eto.

"Cael rhywun sy'n meddwl gymaint ohonoch chdi ac eisiau chdi yn ei fywyd. Yn lwcus, dod lawr a ffonio'r doctor. Es i'n syth i A&E a chael triniaeth."

Lai na thair blynedd yn ddiweddarach ac Aled wedi derbyn cymorth mae rŵan yn troi ei sylw at helpu dynion eraill gyda'i fenter.

Mae Sut Mae Dad? yn rhwydwaith i ddynion fel fo.

"Sdim cymaint o gymorth yna i ddynion a dyna dw i eisiau gwneud rŵan. Mae hwn yn rhoi rhywle i dad dod a bondio efo'r plentyn yn lle bod o'n eistedd nôl yn y tŷ a theimlo'n hollol useless."

Yn ôl ystadegau swyddogol o'r holl hunanladdiadau o 2022 roedd 74% yn ddynion a'r gyfradd ar ei uchaf i dynion rhwng 35 a 44.

"Mae'r ystadegau yn bryderus iawn. Mae'n dangos lefel y dioddef tawel sy'n digwydd ymhlith dynion. Mae'r stereoteip a'r disgwyliadau cymdeithasol yn pwysleisio'r ffaith bod dynion yn cuddio eu hemosiynau.

"Dyw hwnna ddim yn helpu chwaith. Mae'n arwain at ddioddef mewn tawelwch ac mae angen torri'r gylchred 'na."

"Dw i'n meddwl bod o'n generational. Wnes i dyfu i fyny gyda'r mindset bod hogiau mawr ddim yn crio. Coda i fyny, stopio crio, 'sdim byd yn bod efo chdi."

"Ar y funud, does 'na ddim cwestiwn a dyna pam wnes i ddewis yr enw achos 'sneb yn gofyn sut mae dad? Pan es i drwy be wnes i, wnaeth neb gofyn i fi sut o'n i fatha dad hyd yn oed y professionals oedd yn gwybod bod hyn yn digwydd.

"Wnaeth neb ofyn i fi fy hun, ydw i'n iawn? Wnaethon nhw ofyn i'r wraig ond jyst un conversation pum munud yn deud, wyt ti'n iawn, wyt ti angen help?

"Os fedra i helpu jyst un tad dw i'n gwybod byddai'n gadael y lle mewn gwell lle nag oedd o."

Megis dechrau mae'r fenter ond mae'n gadarn fod dangos esiampl i'w blant a'r genhedlaeth nesaf mor bwysig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.