Newyddion S4C

Dolly Parton yn ymweld â Chymru i ymchwilio i wreiddiau ei theulu

15/05/2024
Dolly Parton

Bydd y gantores fyd-enwog Dolly Parton yn ymweld â Chymru i ymchwilio i wreiddiau ei theulu.

Cafodd ei geni yn Tennesse ond mae wedi darganfod bod ei chyndeidiau yn dod o ardal Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Bydd Dolly a’i theulu yn ymweld â Chymru mewn rhaglen deledu arbennig y flwyddyn nesaf.

Dywedodd ei nith, y gantores Jada Star, wrth bapur newydd The Sun eu bod wedi olrhain eu DNA i Gymru.

"Mae Dolly yn rhyddhau cyfres ddogfen bedair rhan am ein gwreiddiau ac o ble rydyn ni’n dod," meddai.

"Bydd digon o ddeunydd ar gael i'w weld."

'Teimlo fel teulu'

Nid dyma'r tro cyntaf i'r canwr y gân enwog '9 to 5' a 'Jolene' gael ei gysylltu â Chymru.

Yn 2008, yn ystod cyngerdd yn Arena Ryngwladol Caerdydd, roedd y seren wedi dweud wrth gefnogwyr yn y dorf fod ganddi dras Gymreig.

“Mae rhai o bobol ochr fy mam, yr Owens, gyda gwreiddiau yno,” meddai Parton yn ddiweddarach wrth WalesOnline.

“Rydw i wedi bod yno tair gwaith ac mae bob amser yn teimlo’n dda oherwydd ei fod yn teimlo fel teulu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.