Newyddion S4C

Gwaharddiad aelod o'r Senedd am 'gyffwrdd amhriodol' yn dod i ben

15/05/2024
Rhys ab Owen

Mae gwaharddiad hyd 42 diwrnod aelod o'r Senedd am gyffwrdd dwy ferch yn amhriodol a rhegi wedi dod i ben.

Cafodd Rhys ab Owen ei wahardd gan y Senedd ym mis Mawrth yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain i ymddygiad y gwleidydd ar noson allan.

Bellach mae ei waharddiad wedi dod i ben.

Yn dilyn ei waharddiad, dywedodd Mr ab Owen wrth y Senedd ei fod yn dymuno ymddiheuro.

Roedd yn agos i ddagrau tra'n diolch i'w wraig a'i deulu am eu cefnogaeth, gan ddweud ei fod wedi gwneud "newidiadau personol sylweddol."  

"Roedd fy ymddygiad ar y noson yna ymhell islaw y safon sydd i'w ddisgwyl gan swyddog cyhoeddus." meddai.

"Cefais i ormod i yfed y noson honno a fe wnes i ymddwyn yn wael.

"Rwy'n cymryd cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad yna."

Dywedodd ei fod yn derbyn y gosb ond fod ganddo amheuon am y modd y gwnaed y penderfyniad, a'r ffaith ei fod wedi cymryd gymaint o amser. Roedd ganddo hefyd amheuon am dryloywder y broses, meddai.

Ychwanegodd nad oedd modd iddo herio'r broses ar wahan i adolygiad barnwrol, fyddai'n eithriadol o ddrud.

Mae Rhys ab Owen wedi bod yn eistedd fel aelod annibynnol o'r Senedd, wedi iddo gael ei wahardd gan Blaid Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.