Lladrad £3m: Apel yn erbyn gorchymyn i dalu arian yn ôl yn cael ei gwrthod
Mae dyn o Gasnewydd a gafwyd yn euog am ei rôl yn dwyn gwerth £3 miliwn o ddarnau arian a gemwaith o gyfnod y Llychlynwyr wedi cael gwybod na all apelio yn erbyn gorchymyn iddo dalu £600,000 yn ôl.
Cafodd George Powell a Layton Davies eu carcharu yn 2019 am fethu â datgan y casgliad o drysor a oedd yn dyddio’n ôl 1,100 o flynyddoedd, gan werthu nifer o'r eitemau a gwneud elw sylweddol.
Roedd y ddau yn ddefnyddwyr teclyn chwilio am fetel.
Cafodd y darnau arian a'r gemwaith eu darganfod ar ôl gwaith cloddio ar dir fferm yn Sir Henffordd ar 2 Mehefin 2015.
Cafodd Powell, o Gasnewydd ei ddedfrydu i chwe blynedd a hanner o garchar, tra bod Davies, o Bontypridd, wedi ei ddedfrydu i bum mlynedd o dan glo.
Yn Llys y Goron Caerwrangon ym mis Rhagfyr 2022, cafodd y ddau ddyn orchymyn gan y Barnwr Cartwright i dalu ychydig dros £600,000 yr un neu byddai pum mlynedd yn cael ei hychwanegu at eu dedfrydau, yn ôl Heddlu Gorllewin Mercia.
Fe wnaeth Powell gais i apelio yn erbyn y gorchymyn, ond fe gafodd ei wrthod gan farnwyr yn y Llys Apêl ddydd Mawrth.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Dingemans, Mr Ustus Wall a’r Barnwr Sylvia De Bertodano yn eu dyfarniad fod gorchymyn y Barnwr Cartwright yn “deg, yn rhesymegol ac wedi’i seilio ar y dystiolaeth”.