Newyddion S4C

Taith Taylor Swift i 'ddarparu bron £1bn i economi'r DU'

15/05/2024
Taylor Swift

Bydd taith Taylor Swift yr haf hwn yn golygu bod £997 miliwn o bunnau yn cael ei rhoi tuag at economi'r Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad newydd.

Bydd y gantores Americanaidd yn perfformio yng Nghaerdydd yn ogystal â Lerpwl, Llundain a Chaeredin yn ystod ei thaith.  

Yn ôl ymchwilwyr, bydd yr 1.2 miliwn o bobl a fydd yn bresennol yn ei chyngherddau fis Mehefin ac Awst yn gwario £848 ar gyfartaledd, ar docynnau, teithio, llety, dillad a chostau eraill. 

Mae hynny bron ddeuddeg gwaith yn fwy na noson arferol allan, yn ôl adroddiad Barclays Swiftonomics.

Mae'r astudiaeth hefyd yn nodi y bydd bobl ar gyfartaledd yn gwario £59 ar bryd o fwyd cyn mynd i gyngerdd Taylor Swift.

Dywedodd Dr Peter Brooks, gwyddonydd ym maes ymddygiad yn Barclays: “Pwy bynnag ddywedodd na all arian brynu hapusrwydd, dyw e yn amlwg ddim yn Swiftie."

“Mae tystiolaeth gynyddol fod gwario ar brofiadau fel hyn yn arwain at hapusrwydd a theimladau llesol. Ac mae hynny'n fwy amlwg nac wrth brynu nwyddau, yn enwedig os yw'r profiad hwnnw yn cael ei rannu gyda ffrindiau ac anwyliaid.

“Wrth ystyried sêr mawr fel Taylor Swift – fel y gwelsom gydag Elvis a Beatlemania yn y 50au a'r 60au – mae gan gefnogwyr cyswllt cryf gyda'r artist, ac mae'r awydd i wario felly hyd yn oed yn fwy pwerus.”

Bydd Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar 18 Mehefin. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.