Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio profiad ar-lein y Metafyd
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r metafyd, sef y genhedlaeth nesaf o brofiadau ar-lein yn rhan o strategaeth Croeso Cymru.
Mae Metafyd Croeso Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, gan roi blas i ymwelwyr rhithwir o bob cwr o'r byd o'r hyn y gellir ei ddarganfod yng Nghymru.
Mae diwylliant a threftadaeth Cymru yn ganolog i'r cyfan a'r nod yw "ysbrydoli twrisatiaid y dyfodol."
Yn weithredol o 13 Mai, mae modd cael mynediad i'r gofod digidol drwy ffonau clyfar, llechen, gliniadur, cyfrifiadur, a thrwy glustffonau Meta Quest.
Mae'r Metafyd yn cynnig nifer o brofiadau rhithiol.
Mae modd crwydro trwy gastell hanesyddol gyda map cudd o Gymru i’w ganfod yno.
Profiad arall yw taith car cebl sy’n galluogi ymwelwyr i deithio o un ochr o’r metafyd i’r llall, yn debyg i'r daith car cebl yn Llandudno.
Cafodd y cyfan ei greu mewn partneriaeth â phenseiri Meta o Abertawe, iCreate.
Dywedodd Dawn Lyle, sylfaenydd iCreate:"Mae Cymru yn rhagori yn y maes arloesi a thechnoleg. Rydym yn teimlo'n gyffrous i fod yn rhan o'r fenter hon, gyda'r gofod rhithwir yn agor posibiliadau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."
'Agor llygaid miliynau'
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 600 miliwn o bobl yn ymweld â’r metafyd yn fyd-eang yn flynyddol,
Cafodd y fenter ei lansio mewn digwyddiad rhithwir gyda chyflwynydd y BBC Steffan Powell yn arwain y cyfan.
Dywedodd: "Trwy ddefnyddio’r dechnoleg hon, bydd y profiad hwn o Gymru’r metafyd yn rhoi blas i ymwelwyr posibl o’r holl bethau cyffrous y gallwch eu gweld a’u gwneud ar wyliau yng Nghymru.
"Dyma gyfle gwych i hyrwyddo Cymru i’r byd a dull arloesol o agor llygaid miliynau o bobl o bosib i brydferthwch Cymru.”