Newyddion S4C

Carcharu llanc o Awstralia am lofruddio mam o Brydain

13/05/2024
emma lovell.png

Mae llanc o Awstralia wedi cael ei garcharu am 14 mlynedd ar ôl llofruddio mam o Brydain. 

Fe gafodd Emma Lovell, 41, ei thrywanu ar Ddydd San Steffan yn ninas Brisbane yn 2022. 

Roedd Ms Lovell wedi symud o Suffolk yn 2011 i'r wlad gyda'i phlant a'i gŵr Lee.

Cafodd o hefyd ei anafu yn yr ymosodiad.

Ni all y llanc gael ei enwi a hynny am resymau cyfreithiol, ond roedd yn 17 oed ar adeg yr ymosodiad.

Plediodd yn euog i lofruddio Ms Lovell yn gynharach eleni.

Fe gafodd ei ddedfrydu yn y Goruchaf Lys yn Brisbane brynhawn Llun (amser Awstralia).

Dywedodd yr Ustus Tom Sullivan fod Ms Lovell a'i theulu wedi bod yn adeiladu bywyd newydd ar gyfer eu hunain mewn gwlad newydd.

"Roedden nhw yn bobl arferol a oedd yn mwynhau eu bywyd teuluol yn eu cartref lle'r oedden nhw'n teimlo'n ddiogel," meddai.

Mae teulu Ms Lovell wedi galw ar y llofrudd i gael ei ddedfrydu am oes. 

Mae oedolion yn nhalaith Queensland yn wynebu dedfryd oes orfodol am lofruddiaeth, ond roedd yn rhaid i'r llanc gael ei ddedfrydu fel plentyn yn sgil ei oed ar adeg yr ymosodiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.