Newyddion S4C

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

12/05/2024
Gwrthdrawiad

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Conwy ddydd Sadwrn.

Bu farw beiciwr modur yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan du Volkswagen ar ffordd yr A548 rhwng Llangernyw a Llanfair Talhaearn am tua 14:35 ddydd Sadwrn.

Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r beic modur ac mae’r llu yn ymchwilio ac yn apelio am wybodaeth.

Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes: “Yn anffodus rydym yn ymchwilio gwrthdrawiad ffordd angheuol ac yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu.”

Ychwanegodd y llu fod teulu’r dyn yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 24000430066.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.