Newyddion S4C

Vaughan Gething yn Mumbai i geisio rhoi pwysau ar benaethiaid Tata Steel

10/05/2024
Port Talbot

Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi teithio i Mumbai ddydd Gwener i gwrdd ag arweinwyr Tata Steel.

Ei obaith yw cyflwyno'r achos dros osgoi diswyddiadau sylweddol ar draws safleoedd y cwmni yng Nghymru, yn enwedig ar safle gwaith dur Port Talbot. 

Daw hyn wedi i aelodau undeb mwyaf y gweithwyr dur, Community, bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol dros gynlluniau ailstrwythuro Tata Steel.

Dywedodd yr undeb ddydd Iau fod 85% o'r rhai a bleidleisiodd yn cefnogi'r cam.

Amcangyfrifir bod cynlluniau Tata i gau ffwrneisi chwyth Port Talbot yn effeithio ar tua 2,500 o weithwyr yn uniongyrchol, yn ogystal â thua 10,000 o bobl ar draws yr ardal, o fewn y gadwyn gyflenwi a busnesau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am broses bontio decach, fwy graddol i gynhyrchu dur mwy gwyrdd, sydd ddim yn golygu diswyddiadau sydyn.

Dywedodd Vaughan Gething: "Mae dur o safon, sy'n cael ei wneud yng Nghymru, yn hanfodol i economi a diogelwch y DU.

"Rydyn ni wedi dadlau'n gyson bod yna fargen well i'r diwydiant a gweithwyr Tata y gellid ac y dylid ei sicrhau - gan arwain at broses bontio hirach, decach tuag at gynhyrchu dur mwy gwyrdd. 

"Fe allai ac fe ddylai fod gan ein sector dur ddyfodol cryf, a dim ond symud swyddi ac allyriadau Cymru i wlad arall y bydd atal cynhyrchu dur yn ei gyflawni nawr."

Ychwanegodd: "O dyrbinau gwynt i geir glanach, rydyn ni'n gwybod y byddwn ni'n defnyddio mwy o ddur, yn enwedig dur gwyrdd, yn y DU yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu cyfleoedd sylweddol i Bort Talbot os gall Tata ddelio'n iawn â'r broses bontio.

"Er y gall y ffenestr ar gyfer sicrhau'r broses bontio gyfiawn hon fod yn un gul, fel Prif Weinidog dw i'n addo ymladd bob cam i ddiogelu'r swyddi hyn. Fe fydda' i'n dadlau'n gryf dros gadw swyddi Tata yng Nghymru, sy'n hanfodol nid dim ond i'r ardal, ond i ddyfodol gweithgynhyrchu yn y DU."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.