Newyddion S4C

Baby Reindeer: Y 'Martha go iawn' yn gwadu stelcian y digrifwr Richard Gadd

10/05/2024
baby reindeer.png

Mae'r ddynes sy'n cael ei disgrifio fel yr ysbrydoliaeth ar gyfer cymeriad Martha yn y ddrama Baby Reindeer wedi gwadu ei bod hi wedi stelcian awdur a phrif gymeriad y sioe.

Fe wnaeth Fiona Harvey, 58, siarad ar raglen Piers Morgan Uncensored a gafodd ei darlledu nos Iau, gan honni mai hi oedd y dioddefwr go iawn. 

Mae'r sioe ar Netflix yn dilyn cymeriad y digrifwr Richard Gadd fel Donny tra bod Jessica Gunning yn chwarae Martha, sy'n ei stelcian. 

Mae cymeriad Donny yn seiledig ar Richard Gadd a'i brofiadau ei hun o gael ei stelcian a'r effaith gafodd hyn ar ei berthnasau a'i yrfa. 

Wrth siarad ar raglen Piers Morgan nos Iau, fe ddisgrifiodd Ms Harvey y digrifwr, Richard Gadd, fel "seicopath" a "misogynist".

"Dwi wir yn meddwl fod ganddo broblemau seiciatrig mawr," meddai. 

"Mae'n gwneud arian allan o ffeithiau anghywir.

"Mae yna ddwy ffaith sy'n gywir yn y ddrama. Ei enw ydi Richard Gadd, ac mae'n gweithio tu ôl i'r bar yn y Hawley Arms ac yn derbyn budd-daliadau."

Aeth ymlaen i wadu nifer o honiadau sy'n cael eu cyfleu yn y ddrama sy'n awgrymu ei bod hi wedi stelcian y digrifwr, ymosod ar ei gariad, eistedd y tu allan i'w gartef a chysylltu â'i rieni.

'Gadael llonydd'

Mae hefyd yn gwadu anfon 41,000 o ebyst, cannoedd o negeseuon llais a 106 o lythyrau, gan ddweud wrth Piers Morgan mai dim ond ychydig o ebyst gafodd eu hanfon, un llythyr drwy'r post a "thua 18" neges ar X. 

Ychwanegodd Ms Harvey nad oedd hi wedi gwylio'r sioe ar Netflix, ac ei bod hi wedi cyfarfod Mr Gadd mewn tafarn yn Llundain "bump neu chwe gwaith".

Dywedodd ei bod hi wedi tynnu coes y digrifwr unwaith drwy ddweud ei fod yn ei hatgoffa hi o degan carw bach oedd ganddi hi fel plentyn, a wnaeth ysbrydoli teitl y gyfres. 

Yn ôl Ms Harvey, ei neges i Mr Gadd fyddai iddo "adael llonydd iddi" ac ei bod hi'n ystyried camau cyfreithiol yn erbyn y digrifwr a Netflix. 

Mae Ms Harvey, a gafodd ei magu yn Yr Alban ac a wnaeth astudio'r gyfraith, yn gwadu ei bod hi wedi bod yn y carchar am unrhyw drosedd yn ymwneud â stelcian. 

Llun: Ed Miller / Netflix

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.