Newyddion S4C

Prifysgol Aberystwyth i gynnig diswyddo gwirfoddol yng ngwyneb bwlch ariannol o £15m

09/05/2024

Prifysgol Aberystwyth i gynnig diswyddo gwirfoddol yng ngwyneb bwlch ariannol o £15m

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod y sefydliad yn wynebu cyfnod "heriol" o drawsnewid yng ngwyneb bwlch ariannol posib o £15m.

Bydd y sefydliad yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol yn y gobaith o leihau gwariant, ac fe fydd yn cael ei gynnig fel rhan o ymdrechion i osgoi diswyddiadau gorfodol cyn belled â phosib medd y brifysgol.

Mewn cyhoeddiad i staff, disgrifiodd yr Athro Jon Timmis yr amgylchiadau heriol sy’n wynebu’r sector addysg uwch ledled y DU, o ganlyniad i effaith chwyddiant uchel ar ffioedd myfyrwyr a’r dirywiad mewn marchnadoedd recriwtio rhyngwladol.

Yn seiliedig ar y lefelau presennol o incwm a gwariant i'r dyfodol, y gred yw y bydd y brifysgol yn gwario tua £15 miliwn yn fwy nag y mae'n ei ennill y flwyddyn nesaf.

Fel rhan o’r strategaeth newydd, dywedodd yr Athro Timmis fod y Brifysgol yn mynd i ddatblygu Rhaglen Drawsnewid a fyddai’n arwain at arbedion i gostau gweithredu, a "buddsoddiadau mewn ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm."

Wrth siarad am ei gynlluniau trawsnewid, dywedodd yr Is-ganghellor: “Bydd y rhaglen drawsnewid yn sicrhau newid sylweddol i strwythurau a ffyrdd o weithio’r Brifysgol. 

"Bydd yn ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon i arbed costau, a bydd yn cynnwys buddsoddiad mewn prosiectau strategol bwysig sy’n dod ag incwm pellach ac yn gwella profiad myfyrwyr."

Ychwanegodd yr Athro Timmis: “Rwy’n deall y bydd y cyfnod o drawsnewid sydd i ddod yn heriol i bawb sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, ond mae’n hanfodol ar gyfer ein dyfodol wrth i ni ymdopi â’r pwysau ariannol sy’n effeithio ar y sector Addysg Uwch cyfan.

“Bydd ein trawsnewid yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob agwedd ar ein gweithrediadau yn gynaliadwy yn ariannol ac yn darparu’r sylfeini ar gyfer sefydliad sy’n llawer cryfach, yn fwy gwydn ac sydd ag ymdeimlad newydd o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.