Newyddion S4C

Achos Neil Foden: 'Cyflwr meddygol' yn atal y prifathro rhag gallu cael rhyw

07/05/2024

Achos Neil Foden: 'Cyflwr meddygol' yn atal y prifathro rhag gallu cael rhyw

Mae prifathro o Hen Golwyn wedi gwadu unrhyw gyswllt rhywiol gyda phlentyn, gan ddweud wrth reithgor na fyddai hynny'n bosib o achos cyflwr meddygol sydd ganddo.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae Neil Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn wynebu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023. 

Mae’n gwadu bob cyhuddiad.

Fe gafodd Mr Foden ei benodi yn brifathro ar Ysgol Friars yn 1997, ac fe ddywedodd wrth y llys ddydd Mawrth fod natur swydd rheoli ysgol wedi newid yn sylweddol yn ystod ei yrfa. 

"Ar ddechrau fy ngyrfa, roedd dipyn mwy o bwyslais ar ddisgyblu disgyblion oedd yn cyflwyno problemau i’r ysgol, ond wrth i bethau newid, roedd cynnig darpariaeth fugeiliol yn disodli’r egwyddorion hynny," meddai.

'Cyswllt cyson'

Ar ddechrau ei amddiffyniad, gan gael ei holi’n benodol am ei berthynas â 'Phlentyn E' gan ei fargyfreithiwr Duncan Bould, fe ddywedodd Mr Foden ei fod wedi cael cyswllt cyson â Phlentyn E, ond nid oedd “dim yn anarferol” am hynny.

“Roedd yr unig gyswllt corfforol i mi gael â hi yn mynd mor bell a rhoi fy mraich o’i chwmpas i’w chysuro ar rai achlysuron.

“Ac ar acysuron prin iawn, mi wnes i afael yn ei dwylo er mwyn ei chysuro.” 

Gofynnodd Mr Bould wrtho: “A gawsoch chi unrhyw gyswllt rhywiol?”

“Naddo” atebodd Neil Foden.

“Mae [Plentyn E] wedi honni eich bod mewn perthynas â hi, oedd hynny’n wir?, meddai Mr Bould.

“Tydi hynny ddim yn wir,” meddai.

“A ddaeth eich perthynas yn un rhywiol ar unrhyw adeg?” gofynnodd Mr Bould.

“Naddo” atebodd Neil Foden.

Fe aeth Mr Bould ymlaen i ofyn: “Ddaru [Plentyn E] erioed roi’r argraff i chi ei bod yn eich gweld fel rhywun yr oedd hi mewn perthynas â hi?”

Atebodd Neil Foden: “Naddo, roeddwn i dan yr argraff ei bod yn fy ngweld i fel rhyw ffigwr tadol.”

Hanes meddygol

Fe aeth Neil Foden ymlaen i roi crynodeb o’i hanes meddygol, a oedd yn ôl y diffynnydd yn cael effaith mawr ar ei fywyd rhywiol. 

Dywedodd ei fod wedi cael "braw canser" sawl blwyddyn yn ôl, gan arwain at brofion meddygol pellach. 

Fe ddatgelodd y profion fod gan Mr Foden broblem yn ymwneud â’i brosdad, a bod hyn wedi arwain at broblem gyda'i organau rhywiol.

“Roeddwn yn cymryd meddyginiaeth i reoli maint fy mhrosdad, sy’n golygu na faswn i wedi gallu, hyd yn oed os fyswn i wedi bod eisiau, cael unrhyw weithgaredd rhywiol gyda [Phlentyn E]."

Fe gadarnhaodd Neil Foden ei fod wedi cael rhai sgyrsiau â Phlentyn E yn ymwneud â rhyw, ond fod y sgyrsiau hynny yn rhai lle’r oedd yn rhoi cyngor i’r plentyn ym fwy na dim.

Fe ofynodd Duncan Bould iddo os oedd Plentyn E erioed wedi prynu unrhyw anrhegion iddo, ac fe atebodd Neil Foden: “Do, ar fwy nag un achlysur, dwi’n cefnogi clwb pêl-droed Everton, ac mae gen i docyn tymor yno, roedd [Plentyn E] yn gwybod hynny, ac mi brynodd grys i mi gan ddweud ei fod yn anrheg pen-blwydd hwyr. 

"Mi ddywedais i ar y pryd ‘Dylia ti ddim gwneud hyn, ddylia ti ddim prynu pethau i mi, fydda i ddim yn prynu dim i ti ar dy ben-blwydd di, ti’n dallt hynny?’ Ni wnaeth brynu dim i mi am dipyn wedyn, ond mi brynodd ambell ddilledyn yn ddiweddarach fel anrhegion.”

Arian

Roedd y llys wedi clywed yn gynharach fod Pentyn E weddi benthyg arian i Neil Foden.

Pan ofynodd bargyfreithiwr Mr Foden iddo beth oedd ei ymateb i’r honiad yma, dywedodd y prifathro: “Roeddwn yn cael gwaith wedi ei wneud ar y tŷ, ar yr ystafell molchi, ac roedd y person oedd yn gwneud y gwaith eisiau ei dalu mewn arian parod, roedd [Plentyn E] yn ymwybodol o hynny. Mi drodd [Plentyn E] i fyny efo £900 i mi mewn arian parod, a hynny yn gwbl anisgwyl i mi."

“Be wnaethoch chi wedyn?” gofynodd Mr Bould.

“Mi wnes i drio ei thalu hi’n ôl, ond roedd hi’n gwrthod derbyn yr arian.”

Fe ddywedodd Neil Foden hefyd nad oes yr un o’r plant sy’n ei gyhuddo o’u cam-drin wedi bod ar unrhyw dripiau dros nos y tu allan i Wynedd gydag o.

Fe glywodd y llys hefyd nad oedd Mr Foden erioed wedi bod mewn trafferthion gyda’r heddlu ar wahan i drosedd yrru yn 1977, cyn iddo gael ei arestio ym mis Medi 2023.

Lluniau ar ffôn

Yn gynharach ddydd Mawrth, clywodd y llys fod lluniau anweddus o blentyn wedi eu dileu o ffôn Mr Foden ar yr un diwrnod y cafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â cham-drin plant.

Fe ddangoswyd cyfres o luniau i’r llys yn cynnwys lluniau o blentyn sy’n cael ei hadnabod fel 'Plentyn A'. 

Dywedodd y swyddog fforensig Richard Hughes fod y lluniau, oedd yn cynnwys chwe llun llonydd, ac 11 o glipiau fideo, wedi eu dileu oddi ar ffôn Mr Foden ar 6 Medi 2023, yr un diwrnod ac y cafodd y prifathro ei arestio. 

Roedd archwiliadau fforensig wedi galllu adfer y lluniau gafodd eu dileu o'i ffôn

Roedd y deunydd dan sylw'n disgyn i 'Gategori C' yn ôl eu difrifoldeb - gyda 'Categori A' y mwyaf difrifol.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.