Jak Jones: Twrnamaint yn brofiad 'anghredadwy'
Mae'r Cymro Jak Jones wedi dweud bod cael cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wedi bod yn brofiad "anghredadwy".
Ar ôl ymdrech ryfeddol, fe gollodd Jones o 18-14 yn erbyn Kyren Wilson o Loegr yn rownd derfynol y gystadleuaeth nos Lun.
Er nad oedd y gŵr o Gwmbrân wedi llwyddo i gipio'r brif wobr, dywedodd bod Wilson yn "ei haeddu cymaint".
"Mae wedi bod yn dwrnamaint anghredadwy i mi," meddai.
"Tua mis yn ôl roeddwn i'n twitchio yn fy ngêm ragbrofol gyntaf. Mae wedi bod yn fis hir ond yn fis fi'n hapus ag ef.
"Rwy’n falch oherwydd dydw i ddim yn meddwl fy mod wedi chwarae cystal â hynny, felly mae curo rhai o chwaraewyr gorau’r byd a chyrraedd rownd derfynol – ac mor agos at ennill – yn rhoi hyder i mi.”
Mae Jones, sydd wedi ennill gwobr £200,000, wedi ennyn edmygedd nifer o bobl.
Y Cymro oedd y nawfed person yn unig i gymhwyso mewn 47 mlynedd yn y Crucible i gyrraedd rownd derfynol y bencampwriaeth.
Roedd wedi treulio 53 awr wrth y bwrdd snwcer yn ystod y gystadleuaeth – 22 awr yn fwy na Wilson.
Roedd yn rhaid i Jones chwarae dwy gêm yn fwy na'i wrthwynebydd gan ei fod wedi gorfod cystadlu mewn dwy rownd ragbrofol i ennill ei le.
Pan fydd y safleoedd yn cael eu diweddaru, bydd Jones yn eistedd ochr yn ochr â sêr y gêm wrth iddo ddringo o fod yn y 44fed i'r 14eg safle yn y byd.