Newyddion S4C

Y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ei hacio

07/05/2024
Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae system gyflogau sydd yn cael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael ei hacio.

Mae’r system dan sylw yn cynnwys enwau a manylion banc aelodau presennol ac hefyd cyn aelodau o’r lluoedd arfog.

Yn ogystal mae’n bosib bod yr hacwyr wedi cael gafael ar gyfeiriadau personol nifer fach o’r gweithwyr.

Data dros gyfnod o nifer o flynyddoedd yw hwn sydd yn berthnasol i weithwyr yn y Fyddin, y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol.

Y gred yw bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi tynnu’r system i lawr o’r we ac yn y broses o roi gwybod i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Mae disgwyl i Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Amddiffyn rhoi diweddariad i Aelodau Seneddol yn San Steffan ynglŷn â’r hacio yn ddiweddarach.

Er nad oes yna wybodaeth eto ynglŷn â phwy sydd tu ôl i'r hacio mae yna rybuddion cynyddol wedi bod ynglŷn ag ymosodiad seibr ar Brydain gan eu gelynion.

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.