Gwerthiant siopau'r stryd fawr yn siomedig fis Ebrill
Dywedodd y Consortiwm Masnachu Prydeinig (BRC) bod 5.1% o gynnydd yn Ebrill 2023, ond bod y gostyngiad eleni oherwydd dyddiadau'r Pasg.
Yn ôl dadansoddwyr, does dim arwyddion eto fod gan bobl hyder i wario, er bod chwyddiant yn gostwng. Mae yna obeithion hefyd y gallai Banc Lloegr ostwng cyfraddau llog yn y dyfodol agos.
Roedd cynnydd o 4.4% yng ngwerthiant bwyd, o gymharu â'r cyfnod union flwyddyn ôl.
Ond roedd gostyngiad o 2.8% yng ngwerthiant nwyddau nad oedd yn fwyd.
Roedd mymryn o gynnydd yng ngwerthiant offer technegol, wrth i rai uwchraddio eu cyfrifiaduron, ffonau a dyfeisiadau eraill.
Ond roedd gwerthiant dillad, esgidiau, celfi'r ardd ac offer ar gyfer y cartref yn isel, a hynny'n bennaf oherwydd y tywydd siomedig.