Newyddion S4C

Disgwyl i John Swinney ddod yn arweinydd nesaf yr SNP

06/05/2024
John Swinney

Mae disgwyl i John Swinney olynu Humza Yousaf yn arweinydd plaid yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, ar ôl i ymgyrchydd y blaid gyhoeddi na fyddai'n ei herio.

Mae'r enwebiadau wedi cau am hanner dydd, ddydd Llun. 

Ddydd Sul, roedd adroddiadau bod ymgeisydd arall yn ystyried herio Mr Swinney. Dywedodd yr ymgyrchydd Graeme McCormick ei fod wedi sicrhau 100 o enwebiadau, a bod hynny'n ei alluogi i ymuno â'r ras am yr arweinyddiaeth. 

Ond yn ddiweddarach nos Sul, cadarnhaodd iddo gamu o'r neilltu wedi iddo gynnal trafodaethau "hir a ffrwythlon" gyda Mr Swinney.  

Roedd Mr Swinney, sy'n gyn ddirprwy brif weinidog yn Alban wedi rhybuddio y byddai unrhyw her i'w ymgais i arwain y blaid yn niweidio gobeithion yr SNP o ail adeiladu wedi cyfnod "anodd" yn ddiweddar. 

Os na fydd ymgeisydd arall, nid fydd angen i aelodau'r SNP ddewis yr arweinydd nesaf, a bydd modd ethol John Swinney. 

Mae'n debygol felly mai Mr Swinney fydd Prif Weinidog nesaf yr Alban, y trydydd mewn ychydig mwy na blwyddyn. A gallai gael ei ethol ddydd Mawrth.    

Bydd Cabinet Llywodraeth yr Alban yn cyfarfod ddydd Mawrth, a bydd cyfle wedi hynny i aelodau Senedd yr Alban ethol Prif Weinidog.  

Yna byddai angen i Mr Swinney dyngu tri llw yng Nghaeredin, cyn ymgymryd â swydd y Prif Weinidog yn ffurfiol.  

Cafodd y ras am yr arweinyddiaeth ei hagor ar ôl i'r Prif Weinidog Humza Yousaf gadarnhau ei fwriad i ymddiswyddo yr wythnos diwethaf, wedi iddo roi'r gorau i gydweithio â'r Blaid Werdd yn Yr Alban. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.