Newyddion S4C

Ed Sheeran yn gwahodd chwaraewyr Ipswich ar noson allan ar ôl sicrhau dyrchafiad

05/05/2024
ed sheeran.png

Mae'r canwr byd-enwog Ed Sheeran wedi gwahodd tîm pêl-droed Ipswich Town am noson allan i ddathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr. 

Mae tri Chymro yn rhan o ddyrchafiad Ipswich i Uwch Gynghrair Lloegr, sef Wes Burns, Nathan Broadhead a Kieffer Moore. 

Yn gefnogwr brwd o Ipswich, mae Sheeran yn noddi crysau pêl-droed y clwb ac fe rannodd fideo ar Instagram ohono yn deffro yn gynnar ym Miami i wylio'r tîm yn curo Huddersfield Town o 2-0 brynhawn Sadwrn. 

Yn y fideo, mae'n gofyn i'r chwaraewyr os yr hoffen nhw fynd am noson allan gydag ef pan y mae'n dychwelyd i'r DU ddydd Mercher. 

Mewn neges ar y cyd, dywedodd: "Does dim gymaint â hynny o amser ers o'n i'n eistedd yn Portman Road yn eu gwylio nhw'n colli yn Adran Un gyda 11,000 o bobl eraill.

"Mae hyn yn enfawr i'r clwb, yn enfawr i'r dref ac yn enfawr i bêl-droed, mae'n dangos fod unrhyw beth yn bosib os ydych chi'n credu ac yn angerddol.

"Llongyfarchiadau i'r holl chwaraewyr a phawb yn y clwb, ac wrth gwrs, Kieran McKenna (rheolwr y tîm)."

Dyma'r tro cyntaf ers 22 mlynedd i Ipswich sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl iddyn nhw guro Huddersfield o 2-0 brynhawn Sadwrn.

Dyma'r ail dymor yn olynol i'r clwb sicrhau dyrchafiad, ar ôl cael eu dyrchafu o Adran Un y tymor diwethaf.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.