Newyddion S4C

Rhybudd i gadw draw o afon yn Yr Wyddgrug wedi ffrwydrad mewn ffatri gemegau

02/05/2024
Tân ffatri cemegau yn Yr Wyddgrug

Mae pobl yn ardal Yr Wyddgrug wedi cael eu rhybuddio i gadw draw o afon yn dilyn ffrwydrad mewn ffatri gemegau ddydd Mawrth. 

Fe ddaw’r rhybudd gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd wedi bod yn bresennol ar safle ffatri gemegau Synthite ar Ffordd Dinbych, gyda swyddogion y gwasanaeth tân. 

Mae ymdrechion i ddiffodd y tân yn "parhau ar y safle" fore Iau, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dywedodd CNC eu bod yn annog pobl i beidio â mynd ger yr Afon Alun ac i sicrhau bod anifeiliaid yn cadw draw o’r dŵr. 

Dywedodd Mike Plant o Wasanaeth Tân y Gogledd bod swyddogion CNC yn parhau i fonitro’r dŵr lleol a byddant yn cymryd “camau angenrheidiol” i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau ar y dŵr.

Mae cwmni Synthite wedi bod yn cynhyrchu cemegau ar y safle, gan gynnwys fformaldehyd a chemegau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth.

Ychwanegodd Mr Plant fod gofyn ar bobl “gadw draw o'r man caeedig wrth i ddiffodd tân barhau ar y safle.”

Cafodd trigolion lleol eu hannog i gadw eu drysau a ffenestri ar gau wedi’r ffrwydrad ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes bellach rhaid gwneud.

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau ddydd Mawrth.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru y byddai ffyrdd o amgylch yr ardal yn parhau ar gau am 24 awr bellach. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.