Newyddion S4C

Heddwas ‘bron a cholli ei llaw’ wedi ymosodiad â chleddyf

01/05/2024
Delwedd fideo o'r ymosodiad honedig

Fe wnaeth heddwas benywaidd ddioddef “anafiadau ofnadwy” a bron a cholli ei llaw mewn ymosodiad â chleddyf yn Llundain, meddai Comisiynydd Heddlu’r Met.

Bu farw plentyn 14 oed, Daniel Anjorin, yn y digwyddiad, ac mae dyn 36 sydd dan amheuaeth o gyflawni’r ymosodiad yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu mewn gwrthdrawiad rhwng fan a thŷ.

Dywedodd Syr Mark Rowley wrth LBC fod heddwas wedi gorfod cael sawl awr o lawdriniaeth ddydd Mawrth ac yn wynebu “taith hir tuag at wella”.

“Treuliodd y llawfeddyg oriau lawer yn rhoi ei braich yn ôl at ei gilydd,” meddai.

Cafodd swyddog gwrywaidd anafiadau difrifol i'w ddwylo hefyd ac mae'n gwella yn yr ysbyty.

“Mae pobl yn dweud bod swyddogion yn rhedeg tuag at berygl,” meddai Syr Mark.

“Yr hyn rydych chi wedi'i weld mewn gwirionedd ar rai o'r fideos sydd o gwmpas ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefannau newyddion ... rydych chi'n gweld sut olwg sydd ar hynny mewn gwirionedd.

“Mae gennych chi swyddogion yn rhedeg tuag at rywun sy'n chwifio cleddyf.”

Roedd fideo o’r digwyddiad yn dangos dyn yn cael ei saethu gan ynnau taser gan heddweision.

Gwelir hefyd heddwas benywaidd yn cymryd y cleddyf oddi ar y dyn sydd dan amheuaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.