Newyddion S4C

Cyhuddo dau o achosi difrod troseddol i goeden sycamorwydden enwog

30/04/2024
Y goeden

Mae dau wedi’u cyhuddo o achosi difrod troseddol i goeden sycamorwydden enwog a Mur Hadrian fis Medi diwethaf.

Mae Daniel Graham, 38, and Adam Carruthers, 31, wedi eu cyhuddo meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Dywedodd Gary Fothergill, erlynydd arbenigol CPS Gogledd Ddwyrain Lloegr: “Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu Northumbria i gyhuddo Daniel Graham ac Adam Carruthers o achosi difrod troseddol ar ôl i'r goeden gael ei thorri i lawr fis Medi diwethaf.

“Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o achosi difrod troseddol i Wal Hadrian a byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon De Ddwyrain Northumberland ar Fai 15 2024.”

Gelwir y goeden hefyd yn y 'Goeden Robin Hood' am ei bod yn ymddangos mewn ffilm o'r un enw.

Cafodd y goeden yn Northumberland ei thorri dros nos ar 27 Medi 2023.

Ar y pryd, dywedodd Rob Ternent, prif arddwr Gardd Alnwick yn Northumberland, y byddai'r goeden yn dechrau tyfu eto ond na fyddai " fyth yr un siâp na chystal â'r goeden wreiddiol ”.

“Roedd tua 300 oed felly bydd yn cymryd amser hir i  ddychwelyd i’r maint hwnnw. Mae’n drueni mawr,” meddai. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.