Y digrifwr Rhod Gilbert yn parhau 'yn glir o ganser'
Mae'r digrifwr Rhod Gilbert wedi dweud ei fod yn parhau yn "glir o ganser".
Cyhoeddodd y cyflwynydd teledu a radio ym mis Gorffennaf 2022 ei fod yn cael triniaeth am ganser gradd pedwar yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle mae hefyd yn un o noddwyr y ganolfan.
Fe gafodd lawdriniaeth cyn mynd ymlaen i dderbyn triniaethau cemotherapi a radiotherapi.
Wrth ymddangos ar raglen The One Show nos Lun, dywedodd wrth Alex Jones a Jermaine Jenas ei fod yn "parhau yn glir o ganser" a'i fod yn "cael ei fonitro bob ychydig o wythnosau".
Inline Tweet: https://twitter.com/BBCTheOneShow/status/1785010479418479072
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo'n rhyfeddol. Mae gen i lot o broblemau a allai aros gyda fi tan weddill fy oes, pwy a ŵyr. Beth ydy'r ots!
"Dwi yma, dwi'n teimlo'n dda a phob nos dwi ar y llwyfan ddim yn credu fy mod i'n gwneud hyn, fy mod i ar y llwyfan yn perfformio ddwy flynedd yn unig ar ôl derbyn diagnosis."
Mae'r digrifwr yn perfformio ar hyd a lled y DU yn 2024 a 2025 ar ei daith Rhod Gilbert & The Giant Grapefruit.
Dywedodd fod ei salwch wedi dylanwadu ar ychydig o gynnwys ei sioe.
"Mae'r grawnffrwyth yn cyfeirio yn rhannol at y tiwmor oedd ar fy ngwddf," meddai.
Ychwanegodd fod ei sioe yn un "hapus" ac yn "codi hwyliau'r" gynulleidfa.
"Mae'n siŵr o fod y sioe fwyaf hapus dwi erioed wedi ei wneud sy'n rhyfedd."