Gyrrwr tractor yn osgoi carchar ar ôl pledio'n euog i yrru'n beryglus
Mae gyrrwr tractor wedi osgoi carchar ar ôl iddo bledio'n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus yn Sir Benfro fis Mai 2023.
Roedd Martin Roch, 51 o Maiden Wells ger tref Penfro yn tynnu trelar drwy'r pentref pan darodd yn erbyn car a oedd yn gyrru yn y cyfeiriad arall, tuag ato.
Clywodd y llys bod gormod o lwyth yn y trelar, gyda ffram fetel yn hongian allan o'r cerbyd.
Wrth i'r trelar daro yn erbyn y car, fe chwalodd gwydr dros y ddynes a oedd yn gyrru'r cerbyd yn ogystal â'r teithiwr oedd yn ei hymyl.
Wrth ddedfrydu Roch i 24 wythnos mewn carchar wedi ei gohirio am 12 mis, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y dylai hi fod yn amlwg bod y trelar yn "beryglus."
Yn siarad ar ran yr erlyniad yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Brian Simpson: “Ar y trelar, roedd ffram fetel ar gyfer sied, a oedd yn fwy na lled y trelar, a hynny o leiaf fetr bob ochr."
Dywedodd fod Janice Wilson, 67, a oedd yn gyrru'r car, wedi ceisio osgoi'r tractor a threlar.
Ond wrth iddo yrru heibio, fe darodd y ffram fetel y piler rhwng y ffenestr flaen a drws y gyrrwr, gan chwalu ffenestr y drws.
Achosodd hynny i wydr dasgu tuag ati hi a'r teithiwr.
Gadael y safle
Arhosodd Martin Roch yno am ryw hanner awr, ond fe adawodd cyn i'r heddlu gyrraedd.
Clywodd y llys iddo fe a'r ffermwr a oedd yn berchen y tractor symud y llanastr oddi ar y ffordd.
Cyn y gwrthdrawiad, roedd e'n symud y ffram rhwng dwy fferm, oedd ryw 3 milltir o'i gilydd.
Darllenodd Mr Simpson ddatganiad gan Ms Wilson. Dywedodd : “Ar ôl y digwyddiad hwn, rwyf yn llawer mwy ymwybodol fy mod yn rhannu'r ffordd gyda thraffig.
Pe bai'r metel ychydig o fodfeddi yn hirach, dywedodd y byddai'r sefyllfa'n ddifrifol tu hwnt, ac y gallai bod wedi "torri fy mhen i ffwrdd".
"Wnaeth e ddim arafu o gwbwl," ychwanegodd.
Pledio'n euog
Dywedodd Emily Bennett, ar ran yr amddiffyniad fod Roch yn flaenorol wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar 8 Ebrill.
Dywedodd fod Roch yn cydnabod iddo wneud camgymeriad, ond nad oedd wedi bwriadu achosi trafferthion i'r ymchwiliad drwy adael safle'r gwrthdrawiad.
Ychwanegodd fod gyrru yn rhan annatod o incwm Roch, gan ei fod yn gweithio'n bennaf fel gyrrwr tractor, ac y byddai ei wahardd rhag gyrru yn effeithio ar ei bartner a'i blentyn ifanc.
Wrth ddedfrydu Roch, dywedodd y Barnwr Thomas: “Dylai fod yn gwbwl amlwg i chi y byddai gyrru'r tractor a threlar yn rhoi eraill mewn perygl."
“Fe wnaethoch yrru'r cerbyd heb ystyried y perygl i eraill, heb son am yr anghyfleustra i yrwyr eraill.
“Roedd difrod sylweddol i'r car a gafodd ei daro, a chafodd y rhai oedd ynddo fân anafiadau.”
Gwahardd rhag gyrru
Er yn cydnabod y byddai gwahardd Roch rhag gyrru yn effeithio ar ei allu i weithio, dywedodd y Barnwr Thomas fod gwaharddiad yn angenrheidiol.
Cafodd ddedfryd o 24 wythnos o garchar wedi ei gohirio am 12 mis, a bydd angen iddo gyflawni 100 o oriau o waith di-dâl, a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis.
Bydd angen i Martin Roch basio prawf gyrru estynedig, cyn y gall hawlio ei drwydded yn ôl.
Lluniau gan Wasanaeth Erlyn y Goron.