Newyddion S4C

Beirniadu ymddygiad protestwyr tuag at Syr Jacob Rees-Mogg yng Nghaerdydd

27/04/2024
Jacob Ress-Mogg

Mae protestwyr a heriodd Syr Jacob Rees-Mogg ar ôl iddo siarad ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael eu beirniadu am eu “twpdra bygythiol”.

Codwyd pryderon ynghylch yr aflonyddu “annerbyniol” ar wleidyddion ar ôl i luniau ddangos bod yr AS Torïaidd yn cael ei erlid gan dorf o wrthdystwyr wrth iddo gael ei hebrwng i gar oedd yn aros gan wyth o warchodwyr diogelwch.

Fe wnaeth yr ymgyrchwyr sgrechian ar yr AS wrth chwifio baneri Palesteina, tra bod staff diogelwch i’w gweld yn cadw pobl rhag ceisio ei ruthro tuag ato.

Roedd y cyn ysgrifennydd busnes wedi bod yn siarad yng Nghymdeithas Geidwadol y brifysgol ddydd Gwener.

Ysgrifennodd cadeirydd y Blaid Geidwadol Richard Holden ar wefan cyfryngau cymdeithasol X: “Mor wirion o’r ffyliaid hyn – beth bynnag maen nhw’n meddwl yw eu hachos, maen nhw’n gwneud anghymwynas.

“Rwy’n siŵr y bydd @Jacob_Rees_Mogg wedi cymryd camau breision, ond ni ddylai unrhyw wleidydd etholedig orfod goddef y twpdra brawychus hwn.”

Dywedodd Jo Stevens, ysgrifennydd Cymreig cysgodol Llafur: “O ran y fideo o driniaeth Jacob Rees-Mogg gan brotestwyr yng Nghaerdydd.

“Dw i’n anghytuno ag e ar bron popeth, ond allwn ni ddim derbyn diwylliant o frawychu yn ein gwleidyddiaeth.

“Mae’r hawl i brotestio cyfreithlon yn gysegredig, ond mae aflonyddu a brawychu yn annerbyniol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.