Newyddion S4C

'Tywydd afiach Cymru' wedi paratoi seiclwr o Aberystwyth am ei fuddugoliaeth fawr

26/04/2024
Stevie Williams

Mae seiclwr o Aberystwyth wedi dweud bod "tywydd afiach Cymru" wedi ei baratoi am fuddugoliaeth fawr mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Enillodd Stephen Williams o Gapel Dewi ras La Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg ar 17 Ebrill.

Fe fydd rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C nos Wener sydd yn dilyn camp orchestol y Cymro Cymraeg 27 oed.

Yn y rhaglen mae Mr Williams yn dweud bod seiclo mynyddoedd Cymru yn y glaw a'r eira wedi ei helpu i baratoi ar gyfer y ras hon.

Fe wnaeth y tywydd garw golygu bod nifer o’r ffefrynnau i ennill y ras wedi gorfod ei gadael yn gynnar gan gynnwys cyd-aelod Stephen o dîm Israel-Premier Tech a’r gŵr lleol Belgaidd, Dylan Theuns.

“Yng Nghymru mae’r tywydd yn wael iawn, a hwnna oedd wedi gosod fi lan achos fi’n cofio reidio mewn tywydd afiach. Ro’n i’n reidio lan Cwm Elan yn 2012 yn yr eira a’r glaw mewn dillad doedd ddim yn ffitio fi ar feic doedd ddim yn ffitio fi gyda’r gwynt yn dod mewn i ochr y wyneb.

“Fi’n berson tawel hyderus, fi’n gwybod bod y coesau ’na. Y trwbl yw gyda seiclo chi’n gallu mynd mewn gyda’r coesau gorau a’r hyder mwyaf yn y byd ond mae pethau yn gallu newid fel gyda’r ras hon gyda’r tywydd, roedd y ras wedi troi 360 ar ôl dim ond awr.

“Fi’n cofio meddwl yn y ras, mae popeth mewn mess nawr, mae pawb pob man ar hyd y ffordd. Mae’r tywydd yn dod mewn a does neb efo team mates ar ôl. Fi’n credu gyda 20 neu 30km i fynd ro’n i’n meddwl fi efo siawns i ennill y ras.”

O’r 174 ddechreuodd y ras, dim ond 44 lwyddodd i’w gorffen. Bu rhaid i'r seiclwr o Ddenmarc, Mathias Skjelmose oedd yn un o’r ffefrynnau i ennill y ras eleni, dynnu allan o'r ras oherwydd ei fod yn dioddef o symptomau hypothermia. 

Image
Stephen Williams
O’r 174 ddechreuodd y ras yng Ngwlad Belg, dim ond 44 lwyddodd i’w gorffen

'Pawb yn ei hoffi'

Mae Stephen Williams wedi dioddef nifer o anafiadau yn y gorffennol sydd wedi ei atal rhag cystadlu, ond mae wedi bod yn holliach eleni gan ennill y Tour Down Under yn Awstralia fis Ionawr, a nawr La Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg.

Dywedodd y seiclwr Geraint Thomas ei fod yn berson hoffus gyda blynyddoedd "llewyrchus" o'i flaen.

“Mae pawb yn ei hoffi. Mae e wedi cael anlwc gydag anafiadau, ond mae’n dda ei weld yn cael cysondeb o’r diwedd.

“Os gall e barhau yn ddianaf a pharhau gyda’r datblygiad hyn mae gydag e flynyddoedd llewyrchus iawn o’i flaen a bydda’ i yn edrych ymlaen at ei weld ar y teledu gyda choffi neu gwrw, amser cyffrous.”

Fe allwch chi wylio Seiclo: Stevie a La Flèche Wallonne ar S4C, S4C Clic neu BBC iPlayer nos Wener, 26 Ebrill am 21:00 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.